Beth sy’n digwydd tu mewn i chwiler?

butterfly

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Beth sy’n digwydd tu mewn i chwiler?

Gan Connor Butler 

Mae cylch bywyd glöyn byw yn ddirgelwch ac yn rhyfeddol. Mae lindys yn dod allan o’u chwiler fel glöynnod byw hardd, fel hud! Beth yn union sy’n digwydd tu mewn?  

Mullein moth caterpillar

Mullein moth caterpillar ©Chris Lawrence

Beth ydi chwiler?

Ar ôl deor o ŵy, mae gan lindysyn un nod – bwyd! Mae’n ffysi a dim ond un math o blanhigyn mae’n fodlon ei fwyta yn aml. Pan mae’n gwbl llawn, mae’n dod o hyd i le diogel i orffwys ac yn glynu ei hun yno gyda sidan. Efallai nad ydi sidan yn swnio’n gryf iawn, ond mae’n gweithio’n union fel Velcro! Wedyn, mae’r lindysyn yn cael gwared ar ei groen ac mae cragen galed o dan y croen. Chwiler ydi’r enw ar hwn. Bydd yn gwarchod y lindysyn tra mae ei du mewn yn troi’n slwtsh – ych!

 

Beth sy’n digwydd tu mewn?

Mae pedwar cam yng nghylch bywyd y glöyn byw: Ŵy, Larfa, Piwpa ac Oedolyn.

Pan mae tu mewn i chwiler, yr enw ar y glöyn byw yw piwpa. I droi’n oedolyn, mae’r piwpa’n dechrau bwyta ei gorff o’r tu mewn. Am ryfedd! Mae’n defnyddio’r un math o gemegau ag y mae’n eu defnyddio i dreulio ei fwyd. Dychmyga gael dy fwyta gan dy stumog dy hun! Na, paid!

Mae lindys yn beiriannau bwyta ac yn gallu tyfu 40 gwaith eu maint gwreiddiol!

Dim jyst slwtsh

Nid yw llawer o’r rhannau pwysig, fel y system dreulio, y llwybr anadlu a’r ymennydd, yn troi’n slwtsh. Dim ond cael eu symud o gwmpas maen nhw! Mae “ceg” y lindysyn yn cael ei hailgylchu i broboscis y glöyn byw – tiwb mae’n ei ddefnyddio i fwyta. Hefyd mae blobiau arbennig yn arnofio o gwmpas sy’n dechrau tyfu’n adenydd, teimlyddion a choesau.

Rhyddid    

Pan mae’r glöyn byw yn barod i ddod allan (ar ôl 5 i 21 diwrnod), mae’r chwiler yn newid lliw. Mae’r clawr yn hollti ac mae’r glöyn byw yn gwasgu allan drwy hollt bychan. Mae ei adenydd yn feddal ac wedi’u gwasgu felly dydi o ddim yn gallu hedfan i ffwrdd eto. Mae’r glöyn byw yn lledu ei adenydd i’w llenwi gyda gwaed a’u sythu. Pan mae’n barod, mae’r glöyn byw yn mentro i’r awyr i ddechrau ar ran olaf ei gylch bywyd. Ar ôl bwydo, dod o hyd i gymar, a dodwy wyau, mae’r cylch yn dechrau eto!

Peacock butterfly

Peacock ©Rachel Scopes