Clever Corvids!

Ravens - WTSWW

Teulu Clyfar y Brain

gan Pete Dommett

Y frân a'r jwg

yma stori fechan i ti. Fe ddaeth brân sychedig o hyd i jwg gydag ychydig o ddwˆ r ynddo fo. Ond doedd hi ddim yn gallu cyrraedd y dwˆ r gan fod y jwg yn rhy dal ac roedd pig yr aderyn yn rhy fyr. Ar ôl meddwl am ychydig, fe gafodd y frân syniad. Casglodd gerrig crynion a’u gollwng nhw yn y jwg. Wrth i bob carreg gron fynd i mewn, roedd lefel y dwˆ r yn codi ychydig. Yn y diwedd, roedd y frân yn gallu cyrraedd y dwˆ r a mwynhau diod cwbl haeddiannol! Y wers yn y stori ydi: mae meddwl yn glyfar yn gallu datrys problem anodd! 

Carrion crow

Tom Hibbert

Wyt ti wedi clywed am ‘Chwedlau Aesop’? Fe gafodd y straeon yma eu hysgrifennu fwy na 2,000 o flynyddoedd yn ôl yng Ngroeg Hynafol i ddysgu gwersi i bobl am fywyd. Ond, yn wahanol i lawer o’r straeon, gallai stori’r Frân a’r Jwg fod wedi digwydd go iawn! Mae brainyn gallu dod o hyd i atebion i bosau anodd iawn, a defnyddio celfi a dangos arwyddion eraill o fod yn glyfar iawn, iawn!

Jackdaw (Corvus monedula) on limestone rock, Malham Cove, Yorkshire Dales National Park, Yorkshire, UK. July 2010

Neil Aldridge

Datrys y b roblem

Mewn profion arbennig mewn caethiwed, mae ydfrain, sgrech y coed a rhai rhywogaethau o frain wedi gallu datrys ‘pos y jwg’. Mae gwyddonwyr yn meddwl bod hyn yn gofyn am yr un pwˆ er ymennydd â phlentyn 7 oed. Gall brain clyfar ddatrys problemau yn y gwyllt hefyd – fel sut i agor bwyd sydd â chragen galed. Mae brain llwyd yn gollwng pysgod cregyn ar greigiau caled i’w chwalu nhw. Mae brain tyddyn yn Japan yn rhoi cnau Ffrengig anodd eu torri ar y ffordd ac yn codi’r darnau wedyn ar ôl i geir fynd drostyn nhw. Mae nhw hyd yn oed yn gosod cnau ar groesfannau i gerddwyr fel eu bod yn gallu eu casglu yn ddiogel pan mae’r golau ar goch!

Hooded crow

Amy Lewis

Creu celfi 

Mae llawer o anifeiliaid yn defnyddio celfi yn y gwyllt, gan gynnwys epaod, dolffiniaid, dyfrgwn môr ac octopysau hyd yn oed – ond brain yw’r unig rai (ar wahân i fwncïod) sy’n creu celfi. Mae brain Caledonia Newydd (sy’n byw ar ynysoedd yn y Môr Tawel) yn gwthio brigau mewn tyllau mewn coed i gyrraedd pryfed sy’n anodd eu cael. Ond hefyd byddant yn plygu ac yn cerfio brigau sydd wedi’u dewis yn arbennig yn fachau i wneud eu celfi yn well fyth!

Jay (Garrulus glandarius) in woodland setting, Scotland, UK -

Mark Hamblin/2020VISION

Cof campus

Mae gan lawer o frain gof gwych. Yn yr hydref, mae poblogaeth y DU o sgrech y coed yn brysur yn storio bwyd ar gyfer y gaeaf. Yn ystod y tymor, efallai y bydd un sgrech y coed yn claddu mwy na 3,000 o fes yn y ddaear! Pan mae bwyd yn brin yn ystod y misoedd oerach, mae’r sgrech y coed yn cofio ble mae wedi claddu ei stôr o fyrbrydau ac yn cloddio amdanyn nhw i gyd (wel, i gyd ‘bron’ – mae’r sgrech y coed yn anghofio am ambell fesen, sy’n tyfu yn goeden dderwen wedyn!).

Raven

Andy Karran

Chwarae clyfar

Mae rhai gwyddonwyr yn dweud mai arwydd arall o ddeallusrwydd mewn anifeiliaid yw chwarae. Mae cigfrain – y brain mwyaf – yn torri brigau oddi ar goed weithiau i chwarae gyda nhw. Maen nhw wedi cael eu gweld yn llithro i lawr llethrau o eira ar y mynyddoedd ar eu cefn hyd yn oed! Caww – am hwyl!