Cysylltu â ni

Cysylltu â ni

Eisiau ysgrifennu atom ni?

Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn llythyrau neu luniau a ffotograffau! Os hoffech chi rannu rhywbeth gyda ni, gallwch ysgrifennu atom ni yma:

Cyfeiriad post

The Wildlife Trusts,
The Kiln,
Mather Road,
Newark
NG24 1WT

Rydyn ni’n hoffi derbyn negeseuon e-bost hefyd! Os yw’n well gennych chi anfon e-bost, anfonwch neges i: watch@wildlifetrusts.org.

 

Angen ein ffonio ni?

Rydyn ni ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 5pm ac mae posib ein cyrraedd ni dros y ffôn ar 01636 677711.

 

Wedi dod o hyd i anifail wedi anafu?

Rydyn ni’n caru bywyd gwyllt ac rydyn ni eisiau helpu pryd bynnag allwn ni, ond dydyn ni ddim wedi cael ein hyfforddi i ofalu am anifeiliaid sâl neu wedi anafu. Os ydych chi wedi dod o hyd i anifail wedi anafu, mae gennym ni gyngor yma am beth i’w wneud a phwy i’w ffonio.  

Wasp beetle

Wasp beetle by Vaughn Matthews

Cysylltwch â’ch Ymddiriedolaeth Natur leol

Polisi cwynion

Yn Yr Ymddiriedolaethau Natur, rydyn ni bob amser eisiau gwneud ein gorau i chi ac i fywyd gwyllt. Ond rydyn ni’n gwybod bod adegau weithiau pan nad ydych chi’n teimlo ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn. Pan mae hyn yn digwydd, rydyn ni eisiau clywed am y broblem, er mwyn gallu delio â’r sefyllfa cyn gynted â phosib.

Darllen ein polisi cwynion neu wneud cwyn