Planhigion rhyfedd

navelwort

© Philip Precey

Planhigion rhyfedd

Beth yw'r arogl...

O flodau sy’n arogli fel pi-pi i ddail sy’n edrych fel botwm bol, dyma rai o’r planhigion rhyfeddaf!

Birds-foot trefoil

© Philip Precey

Pys-y-ceirw
Mae pys-y-ceirw yn blanhigyn llachar sy’n tyfu mewn ardaloedd o laswellt. Mae’r blodau’n felyn fel melynwy gyda fflachiadau coch, fel cig moch, gan roi’r ffugenw cig moch a wyau iddyn nhw. Maen nhw’n cael eu galw’n ewinedd nain hefyd oherwydd y plisg hadau tebyg i grafanc.

Fly orchid

© Philip Precey

Tegeirianau'r Clêr
Mae’r planhigyn clyfar yma’n defnyddio dynwarediad i dwyllo pryfed i’w beillio! Mae’r blodau’n edrych fel pryfed ond maen nhw’n cynhyrchu fferomonau (cemegau drewllyd) mewn gwirionedd, yn debyg i wenynen durio fenywaidd. Mae hyn yn denu gwenyn gwrywaidd, sy’n codi’r paill ar ddamwain ac yn ei gario i blanhigyn arall.

Lords and ladies

© Vaughn Matthews

Pidyn y gog
Mae gan bidyn y gog flodyn bychan sy’n cuddio mewn cwcwll tebyg i gobra. Mae ochr laswellt i’r blodyn, gan ei fod yn arogli fel iwrin i ddenu pryfed – ych! Mae’r aeron yn wenwynig ac mae’r planhigyn yn cynhyrchu crisialau mân sy’n gallu bod yn annifyr ar y croen.

Mistletoe

© Zsuzsanna Bird

Uchelwydd
Parasit yw uchelwydd sy’n tyfu ar goed. Yn y gaeaf mae’n cynhyrchu aeron gludiog fel llysnafedd. Mae adar fel brych y coed yn gwledda ar yr aeron gan faeddu eu pigau! Mae’r adar yn sychu eu pigau ar ganghennau coed, gan adael hadau ar ôl lle bydd clystyrau newydd o uchelwydd yn tyfu!

Pineapple weed

© Neil Wyatt

Chwyn pinafal
Fel mae’r enw’n awgrymu, os gwnei di wasgu pen siâp côn y blodyn, fe glywi di arogl hyfryd pinafal! Mae’n hoff iawn o dyfu mewn palmentydd, ar hyd ymylon ffyrdd ac mewn llefydd eraill lle mae’r pridd wedi’i sathru’n dda.

navelwort

© Philip Precey

Dail Crynion
Yn tyfu o graciau mewn waliau ac ardaloedd creigiog, mae planhigion sy’n edrych fel botwm bol i’w gweld! Mae dail crynion yn suddlon sy’n golygu eu bod yn dda am ddal dŵr. Gwyrdd a chrwn gyda thwll yn y canol ac mae rhai pobl yn eu bwyta!

Seagrass bed

© Paul Naylor, marinephoto.co.uk

Morwellt
Mae morwellt yn wych am warchod y blaned! Dyma’r unig rywogaeth o blanhigyn sy’n gallu peillio o dan ddŵr y môr. Rydyn ni’n diolch i forwellt am amsugno mwy na 10% o garbon y moroedd.

Snowdrop

© Dawn Monrose

Eirlysiau
Mae eirlysiau’n blanhigion gwydn iawn gyda blaen caled ar gyfer gwthio drwy dir caled. Os byddan nhw’n mynd yn rhy oer, efallai y byddan nhw’n gwywo, ond mae gwrthrew naturiol yn eu dail yn eu stopio nhw rhag rhewi. Pan mae’r tywydd yn cynhesu, maen nhw’n dod yn ôl yn fyw eto!