Ar gyfer oedolion

Girl

Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Ar gyfer oedolion

Neidio i mewn

Gwyllt! yw cangen iau’r Ymddiriedolaethau Natur a’r prif glwb gweithredu amgylcheddol ar gyfer plant yn y DU. Ei nod yw annog plant i ymwneud â’r amgylchedd a’r materion sy’n effeithio arno.    

Os ydych chi a’ch teulu yn poeni am fyd natur a’r amgylchedd ac eisiau profi bywyd gwyllt lleol, neu os ydych chi’n chwilio am weithgareddau wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Mae cannoedd o ddigwyddiadau a grwpiau lleol y Gwyllt! y gallwch chi a’ch plant gymryd rhan ynddyn nhw.  

Dod yn Aelod

Ein hegwyddorion

  1. Gwella dealltwriaeth o’n hamgylchedd cyfan         
  2. Meithrin ymwybyddiaeth a theimlad tuag at y byd rydyn ni’n byw ynddo
  3. Annog agwedd ofalgar tuag at fywyd gwyllt a chymryd rhan mewn cadwraeth     
  4. Creu ffyrdd ffeithiol, anffurfiol a hwyliog o ymchwilio i’n hamgylchedd
  5. Sicrhau bod pryderon amgylcheddol, syniadau a safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu cydnabod a’u datblygu a bod cyfleoedd yn cael eu creu i weithredu yn eu cylch.

Cylchgrawn Gwyllt!

Watch pack

Mae aelodau Gwyllt! yn derbyn llond gwlad o nwyddau bywyd gwyllt cyffrous! Byddwch yn cael pecyn cychwynnol a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt! bob blwyddyn. Mae hwn yn llawn lluniau, posau a chystadlaethau anhygoel a hefyd fe gewch chi boster bywyd gwyllt gwych am ddim ym mhob rhifyn. Mae gennym ni e-gylchlythyr misol hefyd yn llawn syniadau gwyllt a chyngor am ddod o hyd i fyd natur!

Mwy o wybodaeth

watch

Tom Marshall

Caru natur?

Ymunwch fel aelod Wildlife Watch!

Ymunwch heddiw

Clybiau Gwyllt!

Mae clybiau Gwyllt! yn cael eu gweithredu gan arweinwyr gwirfoddol. Dyma ffordd wych o wneud ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd gwyllt.

Mwy o wybodaeth
badger

Badger by Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mwy o wybodaeth

Dysgu

Ydych chi'n rhiant neu a ydych chi'n gweithio gyda phlant trwy ysgol neu grŵp Gwyllt!?

Mae gennym ni lond gwlad o adnoddau