Glöynnod byw gwych

Common Blue butterfly male

Male Common Blue ©Zsuzsanna Bird

Glöynnod byw gwych!

Pam mae glöynnod byw yn ymweld â gerddi?

Mae amrywiaeth o löynnod byw yn ymweld â'n parciau a'n gerddi i chwilio am fwyd a chartref. Bydd pob gardd yn denu cyfres wahanol o löynnod byw yn dibynnu ar y planhigion, y coed a'r llwyni sydd yno.

Pa löynnod byw ydw i’n debygol o’u gweld yn fy ngardd?

Y gloÿnnod byw canlynol yw rhai o'r rhywogaethau cyffredin a welir mewn gerddi. Mae diwrnod cymylog yn amser arbennig o dda i'w gweld yn agos oherwydd ni fyddant mor brysur a byddant yn aros yn llonydd am fwy o amser!

Peacock butterfly

Peacock ©Rachel Scopes

Mantell paun

Disgrifiad: Coch dwfn gyda marciau duon a ‘smotiau llygaid’ glas (fel y plu ar gynffon paun).

Pryd: Ionawr-Rhagfyr

Red Admiral butterfly

Red Admiral ©Guy Edwardes/2020VISION

Mantell goch

Disgrifiad: Du gyda streipiau coch, llydan ar yr adenydd gyda smotiau gwyn ger y blaen.

Pryd: Ionawr-Rhagfyr

Painted Lady

Painted Lady ©Scott Petrek

Mantell dramor

Disgrifiad: Oren gyda blaen du ar yr adenydd blaen wedi’i orchuddio gyda smotiau du a gwyn.

Pryd: Ebrill-Hydref

Small Tortoiseshell butterfly

Small Tortoiseshell ©Scott Petrek

Trilliw bach

Disgrifiad: Orengoch gyda marciau du a melyn a chylch o smotiau glas o amgylch ymyl yr adenydd. 

Pryd: Ionawr-Rhagfyr

Large White butterfly

©Zsuzsanna Bird

Gwyn mawr

Disgrifiad: Gwyn gyda blaen du ar yr adenydd blaen.

Pryd: Ebrill-Hydref

Small White butterfly

©Les Binns

Gwyn bach

Disgrifiad: Gwyn gyda blaen llwyd golau ar yr adenydd blaen.

Pryd: Ebrill-Hydref

Green-veined White

©Jon Hawkins

Iâr wen wythiennog

Disgrifiad: Gwyn gyda blaen llwyd-ddu ac un neu ddau o smotiau duon.       

Pryd: Ebrill-Hydref

Orange-tip Butterfly

Orange-tip ©Bob Coyle

Gwyn blaen oren

Disgrifiad: Mae’r gwrywod yn wyn gyda darnau oren amlwg ar yr adenydd blaen a blaen adenydd llwyd golau. Gwyn yw’r benywod gyda blaen adenydd llwyd-ddu.

Pryd: Ebrill-Gorffennaf

Meadow Brown

Meadow Brown ©David Longshaw

 

Gweirlöyn y ddôl

 

Disgrifiad: Brown gyda darnau oren wedi’u golchi allan ar yr adenydd blaen. Un smotyn llygad du gyda ‘channwyll’ wen fechan ar bob adain flaen.

Pryd: Mehefin-Medi

Small Copper butterfly

Small Copper ©Bob Coyle

Copor bach

Disgrifiad: Adenydd blaen oren llachar gyda smotiau brown tywyll ac ymyl frown tywyll, drwchus.        

Pryd: Ebrill-Hydref

Holly Blue butterfly

Holly Blue ©Amy Lewis

Glesyn y celyn

Disgrifiad: Glas llachar gyda smotiau duon ar ei ochr isaf ariannaidd. Mae ymylon adenydd y benywod yn ddu.

Pryd: Ebrill-Medi

Common Blue butterfly female

Female Common Blue ©Amy Lewis

Glesyn cyffredin

Disgrifiad: Mae gan y gwrywod adenydd glas llachar gydag ymyl frown. Mae’r benywod yn frown gyda mymryn o las. Mae gan y ddau ryw smotiau oren oddi tanynt.

Pryd: Mai-Hydref

Garden Tiger moth

Garden tiger moth ©Margaret Holland

Not a butterfly!

There are lots of bright and beautiful moths in the UK. Some even fly during the day and are often mistaken for butterflies. If you can't find your butterfly here, take a look at our guide to common moths.

Identify moths