Mae glöyn byw y glesyn cyffredin yn driw i’w enw - mae'n las llachar ac i'w ganfod mewn pob math o gynefinoedd heulog, glaswelltog ledled y DU! Cadwch lygad amdano yn eich gardd hefyd.
Glöyn byw bach glas sy'n hedfan drwy'r haf rhwng misoedd Ebrill a Hydref yw'r glesyn cyffredin. Dyma’r mwyaf cyffredin o’r glöynnod byw glas ac mae i'w ganfod mewn amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys rhostir, llennyrch mewn coetiroedd, dolydd glaswelltog, parciau, gerddi mawr a thir diffaith. Mae’r lindys yn bwydo ar feillion, tagaradr, pys-y-ceirw a phlanhigion cysylltiedig.
What to look for
Mae gan y glesyn cyffredin gwryw adenydd glas llachar gyda border brown ac ymyl gwyn. Mae'r fenyw yn frown gydag 'arlliw' glas ger y corff. Mae gan y glesyn cyffredin smotiau oren ar ochr isaf ei adenydd ôl, ac mae gan lesyn y celyn, sy’n debyg, smotiau duon. Mae'n fwy na'r glesyn bach a’r glesyn serennog, yn llai na'r glas mawr prin, yn fwy llachar na'r glesyn sialc ac nid oes ganddo'r patrwm du a gwyn sgwarog ar hyd ymyl ei adenydd fel y glesyn adonis.
Where to find
Yn eang, ond yn absennol o Ynysoedd y Shetland.
Roeddech chi yn gwybod?
Yn nodweddiadol ceir dwy genhedlaeth o’r glesyn cyffredin mewn blwyddyn, ond os yw'r tywydd yn gynnes, gall fod hyd at dair nythaid dros y gwanwyn a'r haf.