Mudo mawr

Pink footed geese migrating

Guy Edwardes/2020 VISION

Mudo mawr

Gan Tom Hibbert

Efallai bod adar yn edrych yn fach a diniwed, ond bob hydref, mae miliynau ohonyn nhw’n teithio siwrneiau anhygoel ar draws y blaned. Mae llawer o adar yn hedfan mor bell ag Affrica pan maen nhw’n ychydig fisoedd oed yn unig!

Pam mudo?

Symud o un lle i’r llall yw mudo ac fel arfer mae’n digwydd pan mae’r tymhorau’n newid. Mae anifeiliaid yn mudo i ddod o hyd i le gwell i fagu eu rhai bach, i osgoi tywydd drwg neu i ddod o hyd i fwyd. Yn y DU, mae’r mudo’n digwydd yn y gwanwyn a’r hydref fel arfer.

Mynd a dod

Mae llawer o adar yn mudo i’r DU yn y gwanwyn. Maen nhw’n nythu yma, gan fwydo eu cywion ar bryfed. Maen nhw’n gadael eto yn yr hydref, cyn i’r pryfed farw neu aeafgysgu (sy’n cael ei alw’n ‘diapos’ neu saib). Maen nhw’n hedfan i’r de gyda llawer yn mynd bob cam i Affrica. Mae adar eraill yn cyrraedd yn yr hydref i dreulio’r gaeaf yma. Mae’r adar yma’n dod o lefydd pellach i’r gogledd, lle mae’r gaeaf yn oerach ac yn anoddach ei oroesi.

Mapiau meddwl

Mae adar yn defnyddio llawer o gliwiau i wybod ble maen nhw’n mynd. Yn ystod y dydd, maen nhw’n gallu defnyddio tirnodau (fel arfordiroedd neu afonydd) fel mapiau, ac yn ystod y nos maen nhw’n gallu defnyddio lleoliad y sêr. Ond eu pŵer mawr ydi gallu teimlo maes magnetig y ddaear – yn union fel mae cwmpawd yn gweithio i ddweud ble mae’r Gogledd, y De, y Dwyrain neu’r Gorllewin.

Torri pob record!

Môr-wennol y gogledd

Two Arctic terns stand on a stone wall, with the sea in the background. One has its wings raised up as if about to fly, the other has its beak open, calling

Arctic terns ©Tom Hibbert

Yr aderyn môr yma sy’n gwneud y siwrnai fudo hiraf o unrhyw anifail ar y blaned. Yn yr haf, mae’n nythu yn y DU ac mor bell i’r gogledd â chylch yr Arctig. Ar ddiwedd yr haf, mae’n  hedfan tua’r de. Mae rhai’n mynd bob cam i Antartica. Mae môr-wennol y gogledd yn gallu hedfan mwy na 90,000 o gilometrau bob blwyddyn wrth wneud y siwrnai yma!

Rhostog gynffonfraith

Bar-tailed Godwit

Chris Gomersall/2020 VISION

Yr aderyn sydd â’r record am yr hediad hiraf heb stopio yw’r rhostog gynffonfraith. Mae’n hedfan 11,000 o gilometrau o Alasga i Seland Newydd heb stopio i orffwys na bwyta. Mae’n cymryd hyd at naw diwrnod i’r aderyn wneud y siwrnai enfawr yma. Mae posib gweld y rhostog gynffonfraith yma hefyd, ond nid yw ein hadar ni’n hedfan mor bell.

Dryw eurben

Goldcrest

Andy Morffew

Mudwr yw aderyn lleiaf Ewrop hefyd. Bob hydref mae’r dryw eurben o Sgandinafia’n hedfan dros Fôr y Gogledd i’r DU i ymuno â’r drywod eurben preswyl (sy’n byw yn y wlad yma drwy gydol y flwyddyn) ar gyfer y gaeaf. Dim ond tua’r un faint â darn 20c mae’r aderyn yma’n pwyso ond mae’n hedfan cannoedd o gilometrau i’n cyrraedd ni.