Nythod Clyd

NYTHOD CLYD

Gan Mary Edwards

Bruce Shortland

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o anifeiliaid yn gwneud nythod, nid dim ond adar. Maen nhw’n gwneud hyn i fod yn ddiogel ac yn gynnes, i gadw o ffordd ysglyfaethwyr ac i gysgodi rhag tywydd drwg. Dyma beth fyddai gan rai o’n hoff anifeiliaid ni i’w ddweud am eu cartrefi...

Badger

Andrew Parkinson/2020 VISION

Mochyn daear

Yr enw ar gartref mochyn daear ydi daear, ond mae’n anghyffredin iawn! Mae’n rhwydwaith o dan y ddaear o dwnelau a siambrau (“ystafelloedd”) sy’n gallu bod yn hen ac yn fawr iawn. Mae ein teulu ni wedi byw yma ers cenedlaethau lawer.

Mae ein breichiau a’n crafangau cryf ni’n grêt i gloddio twnelau ac ystafelloedd newydd. Rydyn ni’n hoffi cloddio mewn pridd tywodlyd ond o dan haen galetach, fel craig, i gadw’r ddaear yn gryf a diogel. Rydyn ni wir yn hoffi gwely glân a ffres felly rydyn ni’n dod â glaswellt, rhedyn, brigau a dail sych a mynd â’n gwely budr neu ddrewllyd allan. Os wyt ti wedi dod o hyd i fynedfa daear ac wedi ei harogli, mae’n arogli’n neis a melys, nid fel twll llwynog drewllyd!

Dydi moch daear ddim yn gaeafgysgu ond maen nhw’n cuddio yn eu daear os ydi’r tywydd yn oer iawn
A fox next to its den

Jon Hawkins Surrey Hills Photography

LLWYNOG  

Yr enw ar fy nghartref i ydi ffau a dydi o ddim yn “drewi”! Yr arogl ydi arogl marc fel bod llwynogod eraill yn gwybod pwy biau’r ffau. Weithiau mae mynedfa ein ffau ni’n edrych yn flêr. Rydyn ni’n hoffi pentyrru pridd yno i guddio’r fynedfa ac yn aml iawn mae ein cenawon ni’n gadael eu pethau chwarae, fel ffyn wedi’u cnoi, y tu allan.

Rydyn ni’n gadael gweddillion ein bwyd, fel hen esgyrn a sgraps, y tu allan hefyd. Dydyn ni ddim angen gwely, dim ond cyrlio’n ddiogel a braf o dan y ddaear. Rydyn ni’n gwneud ffau fwy, o’r enw daear, pan rydyn ni’n magu ein rhai bach. Mae gennym ni sawl ffau yn ein tiriogaeth, fel cartrefi saff, i fwyta ein hysglyfaeth (cwningod, llygod neu adar fel arfer) neu i ddianc rhag perygl neu dywydd drwg.

A dormouse sleeping in its nest

Terry Whittaker/2020VISION

PATHEW

Fydden ni ddim eisiau i lwynog ddod o hyd i’n nyth ni! Fel arfer rydyn ni’n ei hadeiladu’n ddiogel mewn twll mewn coeden neu mewn gwrychoedd o fieri trwchus. Rydyn ni bathewod yn fedrus iawn am blethu nythod allan o risgl a dail. Rydyn ni’n eu llenwi nhw fel eu bod yn glyd braf ar gyfer ein babis ni.    

Gan mai yn y nos ydyn ni’n dod allan fel arfer, rydyn ni’n defnyddio’r nyth i hepian cysgu’n ddiogel yn ystod y dydd. Pan rydyn ni’n gaeafgysgu, rydyn ni’n gwneud nyth wahanol, sydd ar y ddaear fel arfer, wedi’i gwarchod gan bren marw, dail neu fwsoglau. Rydyn ni’n anifeiliaid bach eithaf prin ac yn byw mewn hen goetiroedd fel arfer, lle mae digon o goed, mwyar duon a gwyddfid. 

Mae yn erbyn y gyfraith i darfu ar nyth pathew, oni bai fod gen ti drwydded arbennig
Shrew

© Carl Wright

Common shrew 

Fel arfer mae nyth chwistlen ar y ddaear ac rydyn ni’n ei gwneud hi o dan orchudd. Mae llystyfiant matiog fel glaswellt tal yn dda, a rhisgl a changhennau sydd wedi syrthio. Rydyn ni’n hoffi tomenni compost mewn gerddi hefyd! Rydyn ni’n gwneud y nythod mewn hen dwnelau llygod, neu mewn tyllau eraill o dan y ddaear, gan amlaf, rhag gorfod tyllu. Rydyn ni’n gorffwys yn ein nythod rhwng bwydo. Oeddet ti’n gwybod bod rhaid i ni fwyta bob dwy awr? Fel arall, fe fyddwn ni’n marw!

Rydyn ni’n gwneud nyth fel meithrinfa, o laswellt a mwsoglau, ac yn ei leinio gyda dail. Dydyn ni ddim yn gallu gaeafgysgu am nad ydyn ni’n gallu mynd yn ddigon tew byth! Rydyn ni’n treulio’r rhan fwyaf o’n bywyd yn chwilio am fwyd a dim ond chwe wythnos mae ein rhai bach ni’n ei gymryd i dyfu i faint llawn.