Coed Hynafol

a view of the ancient pine forest Glen Affric, with a rainbow in the sky

Peter Carins/2020 VISION

COED HYNAFOL

Deinosoriaid byd y coed gan Amy Lewis

Maen nhw’n gannoedd o flynyddoedd oed. Maen nhw wedi goroesi stormydd, rhyfeloedd a chefn gwlad yn newid o’u cwmpas. Dychmyga’r straeon fydden nhw’n gallu eu dweud – maen nhw wedi cael picnic gyda brenhinoedd, bod yn guddfannau i herwyr a gweld rhai o ddigwyddiadau pwysicaf ein gorffennol ni.  

Dainis Ozolz, Allt Rhongyr Reserve, Brecknockshire

Dainis Ozolz, Allt Rhongyr Reserve, Brecknockshire

Beth sy’n gwneud coeden yn hynafol? 

Yn union fel mae crwban yn byw’n hirach na bochdew, mae gan wahanol fathau o goed gylch bywyd gwahanol. Rhaid i ywen fyw am 900 o flynyddoedd cyn bod posib ei galw’n goeden hynafol, ond mae derwen yn hynafol ar ôl byw am 400 o flynyddoedd a bedwen yn hynafol ar ôl dim ond 100 mlynedd.  

 

Roedd rhai coed hynafol yn tyfu pan oedd pyramidiau’r Aifft yn cael eu hadeiladu!  

 

Pam mae coed hynafol yn arbennig?  

Mae hen goed, pren marw a choetiroedd hynafol yn gartref i fywyd gwyllt sydd ddim yn byw yn unman arall. Hefyd mae’r cewri mawreddog yma wedi bod yn rhan bwysig o fywydau, straeon a chredoau pobl ers cenedlaethau.  

Rydyn ni’n ffodus yn y wlad yma. Mae gennym ni fwy o goed hynafol na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop. Ond mae’r coed arbennig yma dan fygythiad oherwydd afiechydon, y tywydd yn newid a difrod gan bobl. Maen nhw’n drysorau cenedlaethol, ond ar hyn o bryd does ganddyn nhw ddim gwarchodaeth fel adeiladau hanesyddol.  

Cliwiau coed hynafol

  • Boncyffion tew: Fel rheol mae hen goed yn mynd yn lletach wrth fynd yn hŷn. Os oes angen tri o bobl i gofleidio coeden, mae’n bur debyg ei bod yn hynafol. Beth am roi cynnig arni?
  • Ffyngau, mwsoglau a phethau eraill yn byw arni: Mae planhigion, cennau a madarch yn hoffi tyfu ar hen goed ac maen nhw’n cymryd amser i setlo arnyn nhw.
  • Tyllau: Mae coed yn mynd yn wag wrth fynd yn hŷn. Hefyd mae tyllau’n ymddangos lle mae canghennau wedi pydru a syrthio i ffwrdd.
  • Anifeiliaid: Mae ystlumod, chwilod, adar a llawer o greaduriaid eraill yn gwneud eu cartref yng nghraciau a chilfachau hen goed.
  • Darnau marw: Gallai canghennau’n pydru, boncyffion wedi’u difrodi a rhisgl wedi’i golli fod yn arwydd o greithiau sydd wedi’u casglu dros gannoedd o flynyddoedd.
  • Canghennau’n sigo: Mae coed hŷn yn tueddu i edrych yn fyr. Mae’r canghennau mawr, trwm yn dechrau sigo yn lle tyfu am i fyny.

Pump o goed hynafol enwog

Ywen Fortingall

Oedran: Tua 3,000 o flynyddoedd oed, ond gallai fod yn hŷn

Lleoliad: Mynwent Fortingall yn Sir Perth

Ffaith bwysig: Roedd yn cael ei chyfrif fel coeden hynaf y DU ar un adeg ond does neb yn gwybod faint ydi ei hoed hi yn union.

Ywen Ankerwycke

Oedran: 2,500 o flynyddoedd oed

Lleoliad: Gweddillion Priordy’r Santes Fair yn Ankerwycke, Berkshire

Ffaith bwysig: Roedd yn 1,000 o flynyddoedd oed yn barod pan gafodd y Magna Carta ei selio o dan ei changhennau gan Frenin John yn 1215.   

Castanwydd Sbaen

Oedran: Mwy na 400 o flynyddoedd oed

Lleoliad: Ger Castell Croft, Sir Henffordd 

Ffaith bwysig: Yn ôl y sôn cafodd y castanwydd pêr yma eu plannu fel cnau o long ddrylliad yr Armada Sbaenaidd yn 1588.

Y Dderwen Fawr

Oedran: 800 – 1,000 o flynyddoedd oed

Lleoliad: Coedwig Sherwood, Sir Nottingham                        

Ffaith bwysig: Yn ôl y chwedl fe guddiodd Robin Hood tu mewn i’r boncyff gwag.

Hen Ddraenen Hethel

Oedran: 700 o flynyddoedd oed

Lleoliad: Gerllaw eglwys yn Hethel, Norfolk 

Ffaith bwysig: Mae Ymddiriedolaeth Natur Norfolk yn gofalu am y goeden yma yn y warchodfa natur leiaf yn y DU – dim ond digon mawr i amgylchynu’r goeden!