Ydi pob pluen yr un fath?

Barn Owl - Danny Green/2020VISION

Danny Green/2020VISION

Ydi pob pluen yr un fath?

Gan Tom Hibbert

Mae plu’n gallu bod yn wahanol siâp a lliw, ond mae gan bob un waith arbennig. Mae rhai’n cadw adar yn gynnes, mae eraill yn eu helpu nhw i guddio neu ddangos eu hunain, ac mae rhai’n gadael iddyn nhw hedfan! 

BETH YDI PLU?    

Mae plu wedi’u gwneud o geratin, yn union fel gwallt ac ewinedd. Mae’r rhan fwyaf o blu’n debyg i goeden. Mae ganddyn nhw “siafft” wag yn y canol, fel boncyff. Mae hon yn canghennu’n siafftiau teneuach o’r enw colion. Mae pob un o’r colion yma’n cynnwys llawer o ganghennau teneuach fyth eto, o’r enw deintellau, fel brigau.

CADW’N GYNNES

Dydi adar ddim yn gallu estyn am jympyr pan maen nhw’n oer, felly mae ganddyn nhw blu arbennig i helpu i’w cadw nhw’n gynnes. Yr enw ar y rhain ydi manblu ac maen nhw’n wlanog iawn! Mae’r manblu yma’n tyfu’n agos iawn at y corff, felly maen nhw’n gallu dal y gwres i mewn yn erbyn y croen. Maen nhw wedi’u cuddio o dan haen galetach o’r enw plu allanol, sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r corff. Mae’r rhain yn wlanog yn y gwaelod, ond yn llyfnach yn y top lle mae’r deintellau (cofia, y ‘brigau’ ydi’r rhain) yn cloi gyda’i gilydd i gadw’r gwynt a’r glaw gwaethaf allan.

HELP I HEDFAN

Mae’r rhan fwyaf o adar yn gallu hedfan, diolch i gyhyrau enfawr a phlu adenydd arbennig. Mae’r plu adenydd yma’n llawer hirach ac yn fwy stiff na’r plu allanol. Maen nhw’n gadael i adar wthio yn erbyn yr aer drwy fflapio, neu gleidio drwy newid y ffordd mae’r aer yn llifo o amgylch yr adain. Mae plu cynffon yn galed fel arfer hefyd, i lywio a brêcio.

Mae gan dylluanod blu adenydd anhygoel sy’n gadael iddyn nhw hedfan yn dawel. Mae pigau ar ymylon blaen y plu, fel crib. Mae’r rhain yn stopio aer rhag gwneud sŵn rhuthro.

GWISG GRAND

Mae lliw yn bwysig i adar. Mae gan rai, fel troellwyr, blu di-liw i’w helpu nhw i gyfuno gyda’r coed neu’r ddaear, rhag i ysglyfaethwyr eu gweld nhw. Mae gan eraill blu llachar i’w helpu nhw i ddenu cymar neu i ddychryn gelyn. Mae gan rai hyd yn oed blu ar gyfer dangos eu hunain yn unig, fel yr wyach gopog fawr, sy’n codi’r plu o amgylch ei gwddw yn union fel mwng llew.