Pam mae’r môr yn hallt a pham mae’r môr yn las?

Sea

Mark Hamblin/2020VISION

CWESTIWN Y MIS

PAM MAE’R MÔR YN HALLT A PHAM MAE’R MÔR YN LAS?

Pam mae’r nôr yn hallt?

Bydd unrhyw un sydd wedi blasu dŵr y môr yn gwybod ei fod yn hynod hallt - mae ganddo gynnwys halen o tua 3.5% ar gyfartaledd. Daw peth o'r halen yn y môr o losgfynyddoedd tanddwr a fentiau hydrothermal, ond daw'r rhan fwyaf ohono o'r tir.

Mae dŵr glaw yn hydoddi mwynau ac yn rhyddhau halen o'r creigiau ar dir, sydd wedyn yn cael eu cludo i lawr i'r môr gan afonydd. Wrth i'r haul gynhesu'r môr, mae’r dŵr yn anweddu ond mae'r halen yn cael ei adael ar ôl, gan wneud y môr hyd yn oed yn halltach.

Amcangyfrifir bod 4 biliwn o dunelli o halen yn mynd i mewn i'r môr bob blwyddyn, ond nid yw'r cefnfor yn mynd yn halltach oherwydd bod swm tebyg o halen yn cael ei ddyddodi ar lawr y cefnfor bob blwyddyn, felly mae lefel yr halen yn weddol gytbwys.

Nid yw halltedd (neu halltrwydd) y môr yr un fath ym mhob rhan o'r byd. Ger y cyhydedd, lle mae'r tymheredd yn uwch, mae mwy o anweddu’n digwydd ac felly mae gan ddŵr y môr grynodiad uwch o halen. Ger y pegynnau, mae rhew yn toddi a glaw trwm yn gwanhau dŵr y môr, gan ei wneud yn llai hallt.

 

Pam mae’r môr yn las?

Mae'r môr yn ymddangos yn las yn aml oherwydd y ffordd mae golau'n rhyngweithio â'r dŵr. Mae golau gwyn yn cynnwys llawer o wahanol liwiau gweladwy yn amrywio o goch i fioled - coch sydd â'r donfedd hiraf, a golau glas y byrraf. Gan fod moleciwlau dŵr yn well am amsugno golau gyda thonfeddi hirach, maent yn amsugno llawer o'r golau coch, oren, melyn a gwyrdd. Mae'r lliwiau glasach, gyda thonfeddi byrrach, yn llai tebygol o gael eu hamsugno, gan roi ei arlliwiau glas i'r môr.

Mae dŵr bas yn aml yn ymddangos yn glir gan fod llai o foleciwlau dŵr i amsugno'r golau, felly mae lliwiau eraill yn gallu cyrraedd gwely’r môr ac adlewyrchu. Po ddyfnaf yr ewch chi, y mwyaf o liwiau eraill sy'n cael eu hamsugno ac mae’r golau’n mynd yn las dyfnach, nes i chi gyrraedd y pwynt lle na all unrhyw olau gweladwy gyrraedd, lle mae'n hollol dywyll.

Mae lliw y dŵr yn dibynnu ar ffactorau eraill hefyd, fel pa ronynnau sy'n arnofio ynddo. Weithiau gall ardaloedd arfordirol edrych yn llwyd a brown gan eu bod yn cynnwys tywod o wely'r môr sydd wedi ei godi i fyny gan donnau.

Mae pethau byw yn dylanwadu ar y lliw hefyd. Mae ffytoplancton yn organebau bach sy'n gweithredu ychydig fel planhigion, gan ddefnyddio cloroffyl i amsugno golau’r haul a thyfu. Maent yn amsugno golau coch a glas, gan adlewyrchu golau gwyrdd a rhoi golwg wyrddach i'r môr. A siarad yn gyffredinol, po fwyaf o ffytoplancton sydd yn y dŵr, y gwyrddaf ydyw.

Mae ffytoplancton yn bwysig iawn gan eu bod yn cynhyrchu mwy na 50% o ocsigen y byd (sy'n golygu bod pob ail anadl rydych chi'n ei gymryd yn dod o'r môr!) a dyma sylfaen gweoedd bwyd morol.