Pam mae ystlumod yn hongian ben i lawr?

Windswept silver birches silhouetted against sky, Cairngorms National Park, Scotland, UK

Mark Hamblin/2020VISION

CWESTIWN Y MIS

PAM MAE YSTLUMOD YN HONGIAN BEN I LAWR?

Gan Hannah Van Hesteren, Bat Advice Officer at the National Bat Helpline 

Pan rwyt ti’n meddwl am ystlumod, mae’n bur debyg dy fod di’n meddwl am greaduriaid bach llawn dirgelwch sy’n hongian ben i lawr oddi wrth eu traed gyda’u hadenydd wedi’u lapio am eu corff. Ac rwyt ti’n iawn, weithiau ...

GWASGU I LECYNNAU CUL

Y gwir ydi nad ydi’r rhan fwyaf o’r ystlumod sy’n byw yn y DU yn gwneud hyn o gwbl. Weithiau rydyn ni’n eu galw nhw’n ‘drigolion y cilfachau’ am fod ystlumod yn hoffi gwasgu i fylchau a chraciau bach mewn coed ac adeiladau, felly maen nhw’n gallu cuddio’n dda.

Mae rhai ystlumod mwy cyffredin, o’r enw corystlumod, mor fach fel byddai’n bosib iddyn nhw wasgu i mewn i focs matsys, ond rwyt ti’n llawer mwy tebygol o’u gweld nhw’n byw dan deils to tai nag yn hongian ben i lawr.

 

FELLY PA YSTLUMOD SY’N HONGIAN BEN I LAWR?

Mae dwy rywogaeth o ystlumod yn y DU yn hongian ben i lawr, gan afael gyda’u traed, mewn ysguboriau, llofftydd gwair ac ogofâu. Yr enw ar y rhain ydi’r ystlumod pedol, sy’n cael yr enw am fod eu trwyn yn siâp pedol ceffyl.

Mae ystlumod pedol mwyaf tua’r un maint â gellygen fechan ac ystlumod pedol lleiaf tua’r un maint ag eirinen. Gan eu bod yn fach dydi’r gwaed ddim yn llifo’n gyflym yn eu corff pan maen nhw’n hongian ben i lawr, sy’n gallu eu gwneud yn benysgafn.

bat

Dale Sutton/2020vision

ACROBATS YR AWYR

Mae gan ystlumod pedol dendonau arbennig yn eu coesau (y rhannau sy’n cysylltu’r cyhyrau â’r esgyrn) sy’n golygu bod eu traed yn gafael yn dynn yn naturiol, hyd yn oed pan maen nhw wedi ymlacio. Mae hyn, a’u pengliniau sy’n wynebu am yn ôl, yn ei gwneud yn hawdd i ystlumod pedol gysgu a hyd yn oed gaeafgysgu ben i lawr.

Mae hongian yn rhydd fel hyn yn rhoi golygfa dda i ystlumod pedol, fel eu bod yn gallu gweld a chlywed o’u cwmpas cyn penderfynu hedfan am y noson. Y cyfan sydd raid iddyn nhw ei wneud ydi lledu eu hadenydd, gollwng gyda’u traed ac wedyn i ffwrdd â nhw!

Mae hyn hefyd yn golygu eu bod nhw’n dda am ddianc yn gyflym rhag ysglyfaethwyr fel tylluanod, ac mae hongian ben i lawr yn eu helpu i ddod o hyd i lefydd cuddio da hefyd. Mae’n siŵr ei bod yn anodd glanio ar dy draed pan rwyt ti’n glanio ben i lawr ond wrth lwc mae ystlumod pedol yn acrobats yr awyr ac yn gallu glanio’n berffaith wrth wneud tin dros ben.