Trefi a gerddi

Garden tiger moth perched on wall

Garden tiger moth by Tom Marshall

Trefi a gerddi

MAE GARDD GYFEILLGAR I FYWYD GWYLLT YN BWYSIG IAWN

Gall ardaloedd a gerddi adeiledig ymddangos yn llefydd anhygoel ar gyfer dod o hyd i fywyd gwyllt. Ond er hynny, maen nhw’n gallu darparu cartrefi i’n bywyd gwyllt mwyaf rhyfeddol ni, o hebogau tramor dinesig i ddyfrgwn trefol! Ond mae llawer o ffyrdd i ni eu helpu i fod yn well fyth i fywyd gwyllt...

 

Fox

Tessa Andrews

Mae llwynogod, moch daear a draenogod i gyd yn gartrefol yn ein trefi a’n gerddi ni. Mae pyllau mewn gerddi’n gartref i frogaod, llyffantod dafadennog a madfallod dŵr. Mae gwenoliaid duon, gwenoliaid y bondo ac ystlumod lleiaf yn gwneud ein tai a’n hadeiladau ni’n gartrefi hefyd!

Mae’n rhyfeddol faint o fywyd gwyllt sy’n gallu dod i’n gerddi ni dim ond i ni ddarparu cynefin ar eu cyfer. Cewch eich synnu hefyd at faint o fywyd gwyllt sy’n dod allan yn ystod y nos, wrth i ni gysgu! Mae Emily o Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint yn dweud mwy wrthym ni am fywyd gwyllt y dref yn ei fideo.

Adar yr ardd

Mae aderyn y to, y fronfraith, llwyd y gwrych a’r ddrudwen wedi gweld eu niferoedd yn gostwng yng nghefn gwlad, a chredir eu bod mewn perygl erbyn hyn. Ond fe allwch chi eu helpu drwy ddarparu bwyd a llefydd iddyn nhw fagu yn eich gardd. Mae bwydo adar yn dod â ni’n nes at fyd natur ac mae siawns dda y gwelwch chi adar y to, bronfreithod, llwyd y gwrych a drudwy yn eich gardd gefn neu eich parc os byddwch yn helpu i ofalu amdanyn nhw.   

Creu bwytawr adar Archwilio rhywogaethau o adar yr ardd

Lawrlwytho'r daflen sbotio adar y ardd! 

 

Mamaliaid yr ardd

Mae llawer o famaliaid a arferai fyw yng nghefn gwlad wedi dysgu addasu i’n trefi a’n gerddi ni. Cadwch lygad am ddraenogod, llwynogod a llygod tŷ. Mae llawer o ffyrdd i chi helpu mamaliaid yn eich gardd gefn. 

Adeiladu ty draenogod Creu pwll bychan

Lawrlwytho'r daflen sbotio bywyd gwyllt y dref 

Planhigion yr ardd

Mae planhigion nid yn unig yn hardd, ond hefyd yn annog pryfed peillio, fel gwenyn, i ddod i’n gerddi ni. Ceisiwch dyfu planhigion brodorol (o’r DU) os yw hynny’n bosib, gan mai’r rhain mae pryfed yn eu hoffi fwyaf yn aml!

Creu bomiau hadau Creu wigwam yn yr ardd ar gyfer planhigion

Lawrlwytho'r daflen sbotio blodau'r haf Tyfu blodau ar gyfer gloynnod byw

Mân-drychfilod yr ardd

Mae mân-drychfilod nid yn unig yn rhyfeddol i’w gwylio, ond hefyd yn hanfodol am sawl rheswm. Maen nhw’n beillwyr ac yn fwyd eu hunain i lawer o fywyd gwyllt arall sy’n byw yn ein gerddi ni, fel adar a draenogod.  

Creu gwesty trychfilod Gwneud compost

Lawrlwytho'r taflen sbotio man-drychfilod

Garden pond

Anna Williams

Oeddech chi’n gwybod?

Amcangyfrifir bod mwy na dwy filiwn o byllau mewn gerddi yn y DU ac mae’r rhain yn gynefinoedd gwych i frogaod, madfallod dŵr a gweision y neidr.

Creu pwll bach eich hun

Other habitats