Ogofâu

Cave

Daniel Radford

Ogofâu

SUT MAE OGOFÂU YN FFURFIO?

Mae ogofâu yn geudyllau sy’n digwydd yn naturiol yn y ddaear ac fel rheol maen nhw’n ddigon mawr i berson fynd i mewn iddyn nhw. Maen nhw’n cael eu creu gan broses o’r enw "speleogenesis"! Mae’n swnio’n gymhleth ond yn sylfaenol mae hyn yn disgrifio sut mae ogofâu’n dechrau ac yn datblygu. Ac nid dim ond ardaloedd bychain i ni gerdded o’u cwmpas ydyn nhw chwaith, fe all ogofâu ymestyn yn ddwfn i gramen y Ddaear – yr ogof sydd wedi’i harchwilio ddyfnaf yw ogof Krubera yn Georgia ac roedd yn mesur 7,208 troedfedd o’r fynedfa i’r gwaelod! Waw!

Cave

Luke Ellis-Craven

Ble mae ogofâu i'w gweld?

Mae ogofâu i’w gweld ym mhob cwr o’r byd, ond y rhai mwyaf cyffredin i’w gweld yn y DU yw:

  • Ogofâu toddiannol – sy’n cael eu creu pan mae dŵr yn y ddaear yn diferu drwy galchfaen a sialc ac yn eu toddi     
  • Ogofâu môr – sy’n cael eu creu pan mae tonnau’n taro clogwyni gwan dro ar ôl tro, gan erydu’r graig

Mae ardal fechan o’r DU wedi’i chreu o graig galchfaen: yma mae llawer o ogofâu, ond maen nhw’n eithaf anodd eu cyrraedd ac felly nid yw llawer ohonyn nhw wedi cael eu harchwilio eto. Oddi ar arfordir yr Alban mae ynys Staffa, sydd â nifer o ogofâu môr – y fwyaf yw Ogof Fingal sy’n fwy na 200 troedfedd o hyd!

Pa anifeiliaid sy’n byw mewn ogof?

Yr enw ar anifeiliaid sy’n treulio eu bywydau mewn ogof yw 'trogloffilau'. Ymhlith yr esiamplau o drogloffilau mae molysgiaid, pryfed genwair, pryfed cop, nadroedd miltroed, nadroedd cantroed, cramenogion, pryfed, pysgod, amffibiaid ac ymlusgiaid. Mae ogofâu’n gartrefi pwysig i’r anifeiliaid sy’n byw yno. Mae’r rhan fwyaf o ogofâu wedi’u hamgylchynu gan dywyllwch llwyr, felly mae llawer o fywyd gwyllt yr ogof wedi colli eu gallu i weld ac mae bron pob anifail ogof wedi esblygu i fod yn olau iawn ei liw. Mae pigmentau sy’n gwarchod rhag yr haul yn ddi-werth mewn ogof!

Nid ydym yn gwybod am unrhyw famaliaid sy’n treulio eu hoes gyfan mewn ogof, ond bydd llawer o rywogaethau o ystlumod yn treulio oriau’r dydd yn gorffwys mewn ogofâu ac yn eu gadael i hela yn ystod y nos.