Rhostir

Heathland

heathland in Surrey - Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Rhostir

BETH YW RHOSTIR?

Rhostir yw un o’n cynefinoedd bywyd gwyllt sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf, gyda llawer ohono wedi’i golli eisoes a’i droi’n rhywbeth arall. Mae’n ofod eang ac agored yn aml, lle mae eithin (gyda blodau bach melyn sy’n arogli fel cnau coco), rhedyn, grug a glaswelltau’n tyfu. Weithiau, mae coed bedw a phîn i’w gweld yma ac acw hefyd!

Heathland

David Tipling/2020VISION

Cow in heathland

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Yn y gorffennol, arferai pobl leol roi eu defaid, eu geifr, eu ceffylau, eu mulod a’u gwyddau i bori ar rostiroedd. Hefyd roeddent yn eu defnyddio ar gyfer pob math o gynhyrchion defnyddiol, o eithin i’w losgi i redyn fel gwely i anifeiliaid, a thywod a gro mân ar gyfer adeiladu. Arferai bwydydd gwyllt fel mwyar duon, ffyngau bwytadwy ac eirin ysgaw gael eu casglu o’r rhostir i wneud deiet pobl yn fwy diddorol hefyd.

Heddiw mae llawer o’n rhostir ni wedi cael ei golli, a’i droi naill ai’n dir amaethyddol neu adeiladwyd arno. Mae’r rhostir sydd ar ôl yn wyllt yn aml gyda gordyfiant o goed, sy’n codi’n naturiol os nad oes unrhyw anifeiliaid yn pori’r safle. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gofalu am rai rhostiroedd ac mae rhai’n cael eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd, ar gyfer hyfforddi’r fyddin.

Common foxglove

Common foxglove Digitalis purpurea, a composite image showing foxgloves growing on the heathland of Wingletang Down, St Agnes, Isles of Scilly, June - Ed Marshall

Oeddech chi’n gwybod?

Yn brinnach na fforestydd glaw, rhostir yw un o’n cynefinoedd sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf. Heddiw mae llawer o rostiroedd wedi’u gwarchod fel gwarchodfeydd natur ac mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gofalu amdanyn nhw. Mae hyn yn bwysig oherwydd heb rostiroedd ni fyddai llawer o fywyd gwyllt prin ac unigryw yn gallu goroesi!           

Bywyd gwyllt i’w adnabod

 

 

Mamaliaid ac adar

Mae mamaliaid fel cwningod, ysgyfarnogod, gwencïod a charlymod yn byw ar rostiroedd. Mae adar prin fel y troellwr mawr a theloriaid dartford i’w gweld yma hefyd.

Lawrlwytho'r daflen sbotio bywyd gwyllt y rhostir

Amffibiaid ac ymlusgiaid

Mae ymlusgiaid wrth eu bodd gyda rhostiroedd a dyma’r cynefin pwysicaf iddyn nhw yn y du! Mae’r chwe rhywogaeth o ymlusgiaid sydd i’w gweld yn y du i’w canfod ar rostir, gan ei fod yn gynefin perffaith iddyn nhw. Mae ardaloedd agored i ymlusgiaid gynhesu eu hunain yn yr haul a digon o fwyd oherwydd yr holl bryfed!            

Mwy o wybodaeth am amffibiaid

Lawrlwytho'r daflen sbotio amffibiaid a ymlusgiaid 

Planhigion

Mae llawer o blanhigion hardd i’w canfod ar ein rhostiroedd ni hefyd. Maen nhw’n bwysig ar gyfer pryfed peillio a mae gwenyn i’w gweld yn suo yn aml o amgylch grug y mêl a’r grug ling. Mae llawer o adar yn hoffi magu yma hefyd, gan fod llwyni bychain i’w gweld yma ac acw sy’n ddefnyddiol fel cysgod iddyn nhw.

LCadwch lygad am yr eithin melyn llachar, ond pigog, y rhedyn a blodau bregus clychau’r eos.

Mwy o wybodaeth am coed a llwyni

Butterfly in heathland

Chris Gomersall/2020VISION

Cynefinoedd eraill