Ble mae cân yr adar wedi mynd?

Common nightingale (Luscinia megarhynchos) adult singing. Spring.

Chris Gomersall/2020VISION

Ble mae cân yr adar wedi mynd?

Gan Yussef Rafik

Mae adar yn defnyddio eu lleisiau am lawer o resymau, ond pam mae’n teimlo fel bod cân yr adar yn diflannu pan mae’r haf yn dod i ben?

Pam mae adar yn canu?

Mae’r rhan fwyaf o’r canu rydyn ni’n ei glywed gan adar yn cynnwys adar gwryw yn ceisio denu cymar. Mae cân uchel yn arwydd bod y gwryw yn heini ac iach! A hyd yn oed ar ôl dod o hyd i gymar, bydd yr adar yn dal i ganu. Maen nhw’n defnyddio’r canu i gyfathrebu gyda’u partneriaid a’u cywion, ac i warchod eu cartrefi rhag adar eraill.

Mae organ arbennig yng ngwddw adar o’r enw syrincs yn gweithio fel ‘bocs llais’ ac yn eu helpu i greu caneuon cymhleth!

Yn yr ymennydd

Mae ymchwil gan rai o adaregwyr (gwyddonwyr adar i ti a fi) gorau’r byd wedi dangos bod strwythur ymennydd adar yn newid drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhannau o’r ymennydd sy’n gyfrifol am reoli’r canu yn tyfu yn ystod y tymor magu. Mae hyn yn helpu i roi cân uwch a mwy cymhleth i adar, fel eu bod nhw’n gallu gwneud mwy o argraff ar gymar newydd.

Newidiadau yn yr hydref

Pan ddaw’r haf i ben ac wrth iddi droi’n hydref, mae’r tymor magu’n dod i ben i’r rhan fwyaf o adar. Dydyn nhw ddim angen denu cymar erbyn hyn ac mae’r cywion wedi tyfu a gadael y nyth. Mae hyn yn golygu nad oes raid i’r oedolion ddal ati i ganu i amddiffyn eu tiriogaeth.

Yr eos sydd ag un o’r lleisiau mwyaf. Mae wedi cael ei recordio’n canu ar 95 desibel, sydd mor uchel â beic modur!

Oes unrhyw adar yn canu drwy’r flwyddyn?

Paid â phoeni, mae rhai adar yn dal i ganu yn yr hydref! Mae’r robin goch yn un o’r ychydig adar ym Mhrydain sy’n canu drwy gydol y flwyddyn. Mae’n aderyn tiriogaethol iawn a bydd yn ymladd am ei le yn aml. Felly mae’n gorfod dal ati i ganu drwy gydol y flwyddyn i amddiffyn ei ddarn o dir. Mae rhywogaethau eraill o adar, fel yr ysguthan, yn magu yn yr hydref yn aml hefyd. Felly mae eu cân i’w chlywed yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd!