Yr wythnos yma rhowch amser i ddysgu am y bywyd gwyllt anhygoel sy’n rhannu ein byd ni — o adar yr ardd a llwynogod trefol i flodau gwyllt a chreaduriaid y coetir. Os byddwch chi'n gweld rhywogaethau ar daith gerdded, yn darllen am gynefinoedd lleol neu'n mynychu un o'n digwyddiadau ni, beth am i ni fod yn chwilfrydig a chysylltu â byd natur gyda'n gilydd!
Rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei wneud drwy ofyn i'ch rhieni, gwarcheidwaid neu athrawon anfon e-bost atom ni neu ein tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Llai na 10 munud
Oes gennych chi ychydig funudau sbâr i ddarllen rhai ffeithiau rhyfeddol am fywyd gwyllt? Dyma ddarnau bach o wybodaeth i chi ddechrau arni...
Llai nag awr
Ychydig mwy o amser ar gael? Mae'n amser bod yn dditectif bywyd gwyllt! Allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng bwncath a barcud coch? Neu ddod o hyd i geffyl dŵr bolwyn yn eich pwll lleol? Bydd y gweithgareddau yma’n eich helpu chi i ddysgu am y bywyd gwyllt o'ch cwmpas
Awr neu fwy
Ychydig mwy o amser ar gael? Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hwyliog a hawdd yma - perffaith ar gyfer archwilwyr bach a meddyliau chwilfrydig! Maen nhw’n ffordd wych o ddysgu mwy am fyd natur gyda’n gilydd.

Marmalade hoverfly © Chris Lawrence

Helena Dolby for Sheffield & Rotherham Wildlife Trust
Mynediad i’ch adnoddau digidol a mwy o syniadau am weithgareddau!
Lawrlwythwch eich adnoddau 30 Diwrnod Gwyllt am ddim ac archwilio ein holl syniadau am weithgareddau