Arwyr mawr y ddaear

Rydyn ni wedi cyrraedd trobwynt ym mrwydr y Ddaear yn erbyn newid hinsawdd. Mae ein bywyd gwyllt ni’n dirywio, mae cynefinoedd yn diflannu ac mae lefel y môr yn codi. Ond mae gan y Ddaear lond gwlad o ffyrdd gwych o frwydro yn erbyn argyfwng dychrynllyd yr hinsawdd: o goetiroedd i gorsydd mawn a morfilod!   

Marsh Fritillary on ragged robin

Tom Hibbert

GLASWELLTIR   

Nid dim ond coed sy’n storio carbon, mae ein glaswelltiroedd ni’n gwneud gwaith arwrol wrth wneud hynny hefyd! Maen nhw’n gweithio gyda’r blodau, y planhigion, y ffyngau, y mân drychfilod a’r holl facteria sy’n byw yn y pridd er mwyn dal carbon a’i gloi i mewn. Rydyn ni wedi colli tua 97% o’n glaswelltiroedd naturiol, ond os gallwn ni adfer rhywfaint o’r cynefinoedd yma fe allwn ni helpu’r Ddaear i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd! 

Sun set over a peat bog

Mark Hamblin/2020Vision

MAWNDIR  

Mawndiroedd yw’r cynefinoedd sy’n cael y sylw lleiaf – maen nhw’n storio llawer iawn o garbon. Mae corsydd mawn yn storio dwywaith cymaint o garbon â fforestydd, er mai dim ond 3% o arwyneb y ddaear maen nhw’n ei orchuddio! O gymharu â gwledydd eraill, mae gan y DU lawer iawn o gorsydd mawn, ond rydyn ni wedi bod yn draenio dŵr ohonyn nhw i anifeiliaid gael pori ac yn eu cloddio nhw ar gyfer compost. Drwy adfer mawndiroedd, fe allwn ni helpu’r Ddaear i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. 

COETIR   

Mae coetiroedd yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ond rydyn ni’n colli coed a choedydd yn gyflymach nag ydyn ni’n eu hailblannu nhw. Wrth i goed dyfu a chwblhau ffotosynthesis (troi golau’r haul yn egni), maen nhw’n sugno carbon o’r aer ac yn ei storio yn eu boncyffion.  

CORS HALEN  

Cynefin tir gwlyb yw cors halen wrth yr arfordir ac mae’n cynnwys llawer o ddŵr hallt o’r môr. Fel glaswelltiroedd, mae’n sugno ac yn storio carbon yn ei briddoedd i’w stopio rhag gwneud niwed i’r atmosffer. Nid yn unig hynny, ond hefyd mae’n gallu helpu i atal erydiad yr arfordir ar lefel y môr. Os gallwn ni adfer mwy o gorsydd halen, bydd hynny’n ein helpu i ddelio gyda llifogydd a chadw trefi’r arfordir yn ddiogel.

Seagrass bed

© Paul Naylor, marinephoto.co.uk

Morwellt

Nid ar dir yn unig mae cynefinoedd yn sugno carbon. Mae dolydd morwellt o dan y dŵr yn amsugno carbon yn gyflym iawn, gan ei storio 35 gwaith yn gyflymach na choedwig law! Ond rydyn ni hefyd yn colli dolydd morwellt ar gyflymder mawr iawn oherwydd pethau fel stormydd eithafol sy’n cael eu hachosi gan newid yn yr hinsawdd, a llygredd yn ein moroedd. Rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n colli maint dau gae pêl-droed o ddolydd morwellt bob awr! Mae angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n trin y môr i sicrhau bod y math yma o gynefin yn gallu ein helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Minke whale breaching off Rue point Rathlin Island

Tom Mcdonnell

Bywyd y môr

Nid dim ond cynefinoedd sy'n helpu i amsugno carbon, mae anifeiliaid anhygoel yn gwneud hynny hefyd! Mae pob anifail yn storio carbon, a pho fwyaf ydi'r anifail, y mwyaf o garbon mae'n ei storio. Mae morfilod yn wych am wneud hyn, ac mae eu pŵer yn helpu organebau eraill i amsugno carbon hefyd. Maen nhw’n deifio'n ddwfn i'r cefnfor i fwydo, ac wedyn yn codi i'r wyneb ac yn gwneud pŵ  llawn maethynnau, sy’n cael ei ddefnyddio gan ffytoplancton (creaduriaid bach iawn yn y môr) i ffotosyntheseiddio yn union fel mae planhigion yn ei wneud, gan sugno carbon a rhoi ocsigen yn ei le. Pan maen nhw’n marw, bydd y morfilod yn suddo i waelod y môr, lle bydd y carbon yn eu cyrff yn cael ei ailddefnyddio yn y gadwyn fwyd ac mae posib ei gloi yng ngwely’r môr am filoedd o flynyddoedd. Mae angen i ni helpu anifeiliaid y môr i ffynnu, oherwydd po fwyaf o anifeiliaid sydd gennym ni, y mwyaf o garbon fyddan nhw’n ei storio!