Hwrê! Mae 30 Diwrnod Gwyllt yma. Mae’n amser gwisgo eich clogyn arwr a helpu bywyd gwyllt lle rydych chi’n byw.
Mae ambell syniad hwyliog i’w gweld isod y gallech chi fod eisiau rhoi cynnig arnyn nhw yr wythnos yma. Neu gadewch i'ch dychymyg redeg yn rhydd a meddwl am eich ffyrdd gwyllt eich hun i helpu byd natur!
Os byddwch chi’n rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano - beth am ofyn i'ch rhieni neu athrawon rannu'r hyn rydych chi'n ei wneud drwy anfon e-bost atom ni neu ein tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol!
Llai na 10 munud
Byr o amser? Dyma ychydig o weithgareddau cyflym iawn er mwyn i chi ddechrau arni.
Llai nag awr
Ychydig mwy o amser ar gael? Beth am edrych ar y gweithgareddau syml yma - mae pob un yn ffordd wych o helpu'r bywyd gwyllt sy'n byw ar garreg eich drws.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth rydych chi'n ei wneud a pha bethau anhygoel rydych chi'n eu creu!
Awr neu fwy
Mae’r gweithgareddau yma’n cymryd ychydig mwy o amser i’w cynllunio a’u gwneud, felly mae’n syniad da neilltuo bore neu bnawn i’w mwynhau nhw’n iawn. Cymerwch eich amser, ewch amdani - ac yn fwy na dim, mwynhewch wrth helpu byd natur!
Cinnamon bug © Tom Hibbert
Digwyddiadau
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog ledled y DU ac ar ynysoedd Alderney a Manaw! Edrychwch beth sy'n digwydd yn eich ardal chi...

©Helena Dolby for Sheffield and Rotherham Wildlife Trust
Mynediad i’ch adnoddau digidol a mwy o syniadau am weithgareddau!
Lawrlwythwch eich adnoddau 30 Diwrnod Gwyllt am ddim ac archwilio ein holl syniadau am weithgareddau