Taten fôr

Taten fôr

+ -
Enw gwyddonol: Echinocardium cordatum
Efallai bod gan datws môr enw doniol ond maen nhw wedi addasu’n berffaith ar gyfer bywyd yn y tywod. Math o fôr-ddraenogod yw tatws môr, sy’n byw mewn twll yn y tywod, gan fwydo ar anifeiliaid a phlanhigion marw gan ddefnyddio eu traed tiwb!

Top facts

Stats

Diametr: 6-9 cm
Yn byw ar gyfartaledd am: 10-20 mlynedd

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Môr-ddraenogod canolig eu maint yw tatws môr sy’n byw mewn twll yn y tywod. Maen nhw wedi’u gorchuddio gan bigau llwydfelyn, sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn flewog, ac mae ganddyn nhw draed tiwb sy’n cael eu defnyddio i fwydo ar anifeiliaid a phlanhigion marw. Pan maen nhw’n marw gellir gweld eu cregyn gwag wedi’u golchi ar y traeth ac maen nhw’n wyn a bregus yr olwg.

What to look for

Mae cragen wen gyfarwydd yr anifail marw’n cael ei golchi ar y lan yn aml. Mae’n hawdd ei hadnabod oddi wrth ei siâp calon, y lliw gwyn pŵl a’r gragen denau, fregus. Mae’r anifail ei hun wedi’i orchuddio gan bigau trwchus tebyg i flew.

Where to find

I’w gweld ar lannau tywodlyd a mwdlyd o amgylch ein harfordiroedd i gyd.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae cragen taten fôr yn siâp calon nodedig a dyma sy’n gyfrifol am yr enw cyffredin arall arni, môr-ddraenog calon; enw neisiach efallai na thaten fôr!