Pysgodyn gleiniog yr anemoni

Pysgodyn gleiniog yr anemoni

+ -
Enw gwyddonol: Actinia equina
Ydych chi wedi gweld blociau jeli coch tywyll erioed wrth archwilio pyllau creigiog? Y creaduriaid yma yw pysgod gleiniog yr anemoni! Maen nhw’n byw drwy lynu wrth greigiau bob cam o amgylch arfordir y DU, gyda gwaelod eu corff yn gweithredu fel sugnydd i’w cadw yn un lle nes i’r llanw fynd allan.

Top facts

Stats

Diametr: 5 cm

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

I’w weld yn fwyaf cyffredin fel blociau coch tywyll mewn pyllau creigiog ac mae pysgodyn gleiniog yr anemoni yn glynu wrth greigiau bob cam o amgylch arfordir y DU, gyda gwaelod ei gorff yn gweithredu fel sugnydd i’w gadw’n ddiogel yn ei le. Dim ond pan ddaw’r llanw i mewn mae hud pysgodyn gleiniog yr anemoni yn dod i’r amlwg; gan mai dim ond bryd hynny mae ei dentaclau byr, trwchus i’w gweld. Mae’n defnyddio’r tentaclau yma i frathu a dal ysglyfaeth sy’n mynd heibio, fel crancod, berdys a physgod bach. Wedyn mae’r rhain yn cael eu tynnu’n ôl i mewn ar lanw uchel neu pan fydd rhywun yn tarfu arnyn nhw.

What to look for

Pysgodyn yr anemoni byrdew, hyd at 5 cm mewn diametr, gyda thentaclau byr, trwchus. Fel rheol, mae’n goch tywyll ei liw ond weithiau’n wyrdd neu oren. Mae’n tynnu ei dentaclau yn ôl i mewn os bydd rhywun yn tarfu arno neu pan mae’r llanw’n mynd allan, gan adael rhywbeth tebyg i flob o jeli!

Where to find

Ar lannau creigiog bob cam o amgylch ein harfordir ni.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae pysgodyn yr anemoni yn hynod diriogaethol. Mae ganddo gylch o leiniau glas llachar hardd o dan ei dentaclau, o’r enw acrorhagi, yn llawn celloedd brathu. Mae’n defnyddio’r gleiniau hyn i hel pysgod yr anemoni eraill i ffwrdd ac i amddiffyn ei lecyn ei hun.

Gwyliwch

Nick Upton