Noethdagellog

Nudibranch

Nudibranch (Facelina auriculata) ©Alex Mustard/2020VISION

Noethdagellog

+ -
Enw gwyddonol: Nudibranchia
Mae noethdagellogion, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel gwlithod môr, yn debyg iawn i’w perthnasau ar y tir a welwch chi yn eich gardd efallai. Ond, yn wahanol i wlithen yr ardd, mae’r noethdagellog yn gallu cynnwys celloedd brathu ei ysglyfaeth yn ei gorff ei hun – i’w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr!

Top facts

Stats

Hyd: Mae’r rhywogaethau’n amrywio o ran maint o ychydig filimetrau i sawl centimetr o hyd. 20 cm yw’r rhywogaeth fwyaf sydd wedi’i chofnodi ym Mhrydain.

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Mae noethdagellogion, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel gwlithod môr, yn folysgiaid morol meddal heb gregyn allanol. Mae mwy na 100 o rywogaethau ym moroedd y DU, lle maen nhw’n bwydo ar wymon, matiau mor, sbyngau, anemonïau a noethdagellogion eraill. Yn wahanol i wlithen gyffredin yr ardd, gall noethdagellog gynnwys celloedd brathu ei ysglyfaeth yn ei gorff ei hun – i’w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr. Maen nhw’n lliwgar yn aml – gyda rhai’n debyg iawn i arddangosfa o dân gwyllt!

What to look for

Gall noethdagellogion fod yn sawl lliw a ffurf, gyda dau dentacl tebyg i gorn yn aml, neu dagellau pluog.

Where to find

Eang ledled y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae noethdagellogion yn ddeurywiaid, sy’n golygu bod ganddyn nhw organau atgenhedlu gwryw a benyw.