Morgi Brych

Large-spotted catshark

Large-spotted catshark ©Peter Verhoog

Morgi Brych

+ -
Enw gwyddonol: Scyliorhinus stellaris
Mae'r morgi brych yn ysglyfaethwr nosol, yn hela pysgod llai yn agos at wely'r môr.

Top facts

Stats

Hyd at 160 cm

Conservation status

Mae'r morgi brych wedi'i restru fel rhywogaeth sy’n Agos at Fygythiad ar Restr Goch yr IUCN.

Pryd i'w gweld

Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.

Ynghylch

Mae’r morgi brych yn hoffi aros yn agos at wely'r môr, gan fyw mewn ardaloedd creigiog gyda llawer o algâu. Mae'n hela gyda'r nos, gan fwydo ar seffalopodau (fel ystifflog ac octopws), cramenogion (fel crancod a berdys mawr), pysgod llai a siarcod eraill hyd yn oed.

Yn ystod y dydd mae’n cuddio mewn tyllau ac agennau yn y graig, gyda sawl siarc yn gorffwys yn yr un agen weithiau.

Mae’r morgi brych yn cael ei adnabod hefyd fel y forgath frych fwyaf, morgi tarw, morgi brych mwyaf, a’r morgi garw – mae hynny’n llawer o enwau ar un rhywogaeth!

What to look for

Mae'r morgi brych yn siarc mawr, hir a main ond eithaf byrdew tuag at y blaen. Mae ganddo smotiau mawr ar hyd ei gorff, a fflapiau trwynol sy'n stopio ychydig cyn y geg.

Where to find

I’w weld ar hyd arfordiroedd y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae’r morgi brych yn dodwy ei wyau yng nghanol gwymon. Mae gan y plisg wyau dendriliau cyrliog sy'n lapio o amgylch y gwymon i atal y plisg wyau rhag arnofio i ffwrdd.