Why do wasps have stripes?

false - Vaughn Matthews (please also tag @vaughnmatthews8 if using on Instagram or @VaughnMatthews2 on Twitter)

PAM MAE GANWENYN MEIRCH STREIPIAU?

Gan Wendy Carter

Mae’n anodd bod yn bryf! Mae cymaint o bethau eisiau dy fwyta di! Mae rhai pryfed yn cuddio yn y cysgodion am ddiogelwch, ond mae eraill (fel gwenyn meirch) yn gweiddi o ben y to eu bod nhw’n bresennol!

MAWR AC AMLWG

Os wyt ti’n mynd i weiddi dy fod di’n bodoli, mae’n syniad da cael rhywbeth i dy gadw di’n ddiogel! Yn ffodus i wenyn meirch, maen nhw’n gallu pigo. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n beryglus i unrhyw beth sydd eisiau eu bwyta nhw. Maen nhw wedi esblygu ffordd wych o ddangos pa mor beryglus ydyn nhw: streipiau melyn a du sy’n rhybudd clir ac yn dweud ‘dos i ffwrdd!’.

Wasp on blackberry

Paul Hobson

DOS I FFWRDD

Mae ysglyfaethwyr fel adar yn dysgu’n gyflym iawn i beidio bwyta rhywbeth os yw’n blasu’n gas neu os yw’n achosi trafferth iddyn nhw. Mae gan wenyn meirch bigyn sy’n gallu parlysu eu hysglyfaeth er mwyn mynd ag o’n ôl i’w nyth i fwydo eu rhai bach. Mae hyn yn eu gwneud yn anodd eu dal a’u bwyta, felly er bod y streipiau melyn a du’n achub bywydau, maen nhw hefyd yn achub yr ysglyfaethwyr rhag gwastraffu egni yn mynd ar eu hôl. Mae rhai pryfed, fel lindysyn y gwyfyn claergoch (cinnabar moth), yn wenwynig. Fel gwenyn meirch, mae ysglyfaethwyr wedi osgoi’r lindys gyda’r lliwiau rhybuddio amlycaf felly, dros filoedd o
flynyddoedd, mae eu streipiau wedi tyfu’n amlycach.

Cinnabar caterpillars

Cinnabar caterpillars (c) Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

PERYGL HEB Y PIGO

Mae rhai pryfed clyfar yn cymryd arnyn nhw eu bod yn blasu’n annifyr rhag cael eu bwyta. Edrycha ar y pryf hofran ‘Batman’ (edrycha ar y marciau tu ôl i’w ben) – mae’n streipiog fel gwenynen feirch ond heb bigiad. Mae arbenigwyr hyd yn oed yn gallu cael eu twyllo gan bryfed sy’n edrych fel rhywbeth mwy peryglus. Mae’r gwyfyn cacynaidd wedi bod yn lledaenu ar hyd a lled y DU a phan mae’n hedfan, mae’n hawdd ei gamgymryd am wenynen feirch. Mae ei larfa’n byw yn nythod gwenyn meirch ac mae’n debygol bod ei allu i edrych fel gwenynen feirch yn helpu’r fenyw i fynd i mewn i’r nyth a dodwy ei hwyau.

batman hoverfly

Vaughn Matthews