Cragen las

Mussels

Mussels ©Julie Hatcher

Cragen las

+ -
Enw gwyddonol: Mytilus edulis
Mae'r gragen las yn olygfa gyfarwydd ar draethau ledled y DU ac mae'n hoff fwyd gan bobl, adar môr a sêr môr fel ei gilydd.

Top facts

Stats

Length: variable, normally 3-10cm Average Lifespan: 2-3 years, sometimes 10 years or more.

Conservation status

Common

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Yn un o’n cregyn deuglawr (sy’n golygu dwy gragen – neu falf – sy’n clampio gyda’i gilydd) mwyaf cyfarwydd, mae’r gragen las yn byw ar lannau creigiog, tywodlyd neu fwdlyd, o’r marc llanw isel ac mewn moroedd bas o amgylch y DU. Mae'n ffurfio gwelyau cregyn gleision mawr, trwchus sy'n gorchuddio gwely'r môr, gyda phob cragen las yn glynu wrth wely'r môr a'i gilydd gan ddefnyddio ffibrau gludiog o’r enw edafedd bysws. Os byddant yn dod i’r golwg ar lanw isel, mae gwelyau cregyn gleision yn fwffe i adar y môr - yn enwedig i'r Bioden Fôr swnllyd. Maen nhw hefyd yn ffynhonnell fwyd bwysig i lawer o greaduriaid, gan gynnwys Sêr Môr, Lledod, Crancod a Chregyn Moch. Fodd bynnag, nid ydynt yn ddioddefwyr diymadferth a byddant yn defnyddio'u hedafedd bysws gludiog i lonyddu Cregyn Moch ysglyfaethus, gan arwain at eu marwolaeth araf. Mae cregyn gleision yn borthwyr hidlo, gan hidlo detritws a phlancton o'r dŵr. Mae eu cregyn yn lliw llwydlas fel rheol, ond maent weithiau'n borffor neu'n frown. Maent yn cael eu hadnabod hefyd fel Misglod Glas.

What to look for

Cragen gyfarwydd iawn, yn drionglog ei siâp bron a llwydlas ei lliw gyda llinellau consentrig.

Where to find

I'w chanfod o amgylch holl arfordiroedd y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan gregyn gleision farf! Mae’r twffyn o edafedd bwsal sy'n angori'r gragen las i wely'r môr a chregyn gleision eraill yn cael ei alw yn farf yn aml - ac mae'n anhygoel o gryf! Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod gan yr edafedd graidd meddal sy’n ymestyn, wedi'i amgylchynu gan orchudd allanol gwydn – sy’n eu galluogi i wrthsefyll moroedd garw a thonnau mawr heb gael eu golchi i ffwrdd.