Gweirlöyn brych

Speckled Wood

Speckled Wood ©Chris Gomersall/2020VISION

Speckled Wood

Speckled Wood ©Tom Marshall

Gweirlöyn brych

+ -
Enw gwyddonol: Pararge aegeria
Mae'r gweirlöyn brych yn ffafrio golau haul brith rhodfeydd ac ymylon y coetir, gwrychoedd a hyd yn oed gerddi. Er gwaethaf ei ddirywiad, mae ei amrediad wedi lledaenu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Top facts

Stats

Lled yr adenydd: 4.6-5.6cm

Conservation status

Common.

Pryd i'w gweld

Mawrth i Hydref

Ynghylch

Yn löyn byw canolig ei faint, mae'r gweirlöyn brych yn hedfan mewn dwy neu dair nythaid rhwng diwedd mis Mawrth a mis Hydref. Mae'n löyn byw cyffredin ac eang yn ymylon a rhodfeydd y coetiroedd, lle mae'n hedfan yn yr heulwen brith, a gellir ei weld mewn gwrychoedd a gerddi hefyd. Mae’r oedolion yn bwydo ar y gawod fêl a’r lindys yn bwydo ar amrywiaeth o laswelltau, gan gynnwys banadl ffug a throed y ceiliog.

What to look for

Mae'r gweirlöyn brych yn frown tywyll gyda smotiau melyn hufennog. Y ffordd orau o adnabod y glöynnod byw 'llwyd' yw drwy edrych ar y smotiau llygaid ar eu hadenydd. Y gweirlöyn brych yw'r unig löyn byw llwyd sydd â thri smotyn siâp llygaid gyda chylch crwn o’u hamgylch ar bob adain ôl ac un ar bob adain flaen.

Where to find

I’w ganfod ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn gynyddol yn yr Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Ceir nifer o is-rywogaethau o’r gweirlöyn brych. Mae'r rhai yn y gogledd yn frown tywyll gyda smotiau gwyn a’r rhai ymhellach i'r de yn frown tywyll gyda smotiau oren.