Morol

Seal diving

Alexander Mustard/2020VISION

Morol

Yn gudd dan wyneb y môr

Dyma fyd rhyfeddol nad ydym yn gwybod llawer amdano gyda chwrelau, ceffylau môr, morfilod,  dolffiniaid, morloi a siarcod! Mae cynefinoedd morol yn cynnwys clogwyni o dan y môr, ogofâu, hafnau, mynyddoedd, twyni a gwastatiroedd. Mae ein moroedd ni’n gartref i filoedd o greaduriaid a phlanhigion ond mewn sawl ardal maen nhw’n wynebu bygythiad oherwydd gweithgareddau dinistriol. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladu a physgota. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod amgylchedd rhyfeddol y môr yn cael y warchodaeth briodol mae’n ei haeddu!

starfish

Paul Naylor

Oeddech chi'n gwybod?

Efallai bod sêr môr yn edrych yn ciwt a diniwed, ond maen nhw’n ysglyfaethwyr sy’n bwyta llawer iawn. Eu hoff fwyd yw cregyn gleision. I’w bwyta, maen nhw’n defnyddio eu cannoedd o draed tiwb i gydio yn y gragen a’i thynnu oddi wrth ei gilydd. Wedyn maen nhw’n gwthio eu stumog allan o’u ceg ac i mewn i gragen y gragen las. Wedyn mae ensymau’n troi’r gragen las yn hylif fel cawl – hoff fwyd y seren fôr – iymi!

Bywyd gwyllt i gadw llygad amdano!

Adar

Cofiwch eich sbienddrych i weld beth welwch chi o’r arfordir!

Lawrlwytho'r daflen sbotio adar y mor  Mwy o wybodaeth am adar mor

Mamaliaid

Does dim rhaid i chi deithio’r byd i weld mamaliaid rhyfeddol y môr – mae gennym ni ddigon yma! Ar wahanol adegau a llefydd drwy gydol y flwyddyn fe allwch chi weld morloi, dolffiniaid a morfilod!

Lawrlwytho'r daflen sbotio anifeiliaid y mor 

Darganfod mwy o famaliaid y mor

Anifeiliaid y pyllau creigiog

Mae pyllau creigiog yn llenwi gyda phob math o greaduriaid rhyfeddol.           

Lawrlwytho'r daflen sbotio adnabod rhywogaethau pwll creigiog 

 Sut i archwilio pyllau creigiog

Pysgod

Mae ein moroedd ni’n gyforiog o fywyd! Pysgod nad ydyn ni byth yn eu gweld gan amlaf ond mae slefrod môr i’w gweld yn gyson wedi’u golchi ar y traeth.

Lawrlwytho'r daflen sbotio slefrod mor 

 Darganfod mwy o bysgod

 

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd ar y traeth pan nad ydych chi yno? Ymunwch â Dr Tasha Phillips wrth i ni ymchwilio i byllau creigiau a cherdded ar hyd llinell y lan i ddarganfod!

Am fynd yn grefftus? Casglwch ychydig o gyflenwadau at ei gilydd a gwnewch bot pensil pâl gyda Jess o dîm Moroedd Byw yr Ymddiriedolaeth Natur.

Cynefinoedd eraill