Creu celf o sbwriel!

Mae Caroline Bond yn lanhawr traethau o Ddwyrain Sussex. Mae hi hefyd yn creu celf o’r sbwriel mae hi’n ei gasglu oddi ar draethau!  

PAM GLANHAU TRAETHAU? 

Mae bod yn lanhawr traethau yn gwneud i chi deimlo’n dda! Mae am ddim, mae’n gwneud i chi fynd allan ac mae’n helpu’r amgylchedd. Fe wnes i dyfu i fyny ger lan y môr ac mae’n fy ngwneud i’n drist ei weld yn sbwriel i gyd. Dydw i ddim yn gallu gadael y sbwriel ar y traeth o wybod ei fod yn beryglus i anifeiliaid. Maen nhw’n gallu mynd yn styc tu mewn iddo neu feddwl mai eu cinio nhw ydi o a’i fwyta. Felly rydw i’n cydio yn fy mag rydw i’n gallu ei ailddefnyddio ac yn mynd allan i gasglu’r sbwriel!  

TROI SBWRIEL YN GELF  

Pan wnes i ddechrau glanhau traethau, fe wnes i ddod o hyd i raffau a rhwydi pysgota ym mhob man. Pe bawn i’n rhoi’r holl raffau rydw i’n dod o hyd iddyn nhw yn y bin, byddai’n mynd i safle claddu sbwriel (bin mawr o dan y ddaear lle mae ein sbwriel ni’n mynd). Felly, fe wnes i benderfynu bod yn greadigol a dangos i bobl beth sy’n golchi ar ein traethau ni bob un dydd.  

Rydw i wrth fy modd yn gwneud adar, yn enwedig adar sy’n byw ar lan y dŵr ac allan ar y môr. Mae’r adar yma’n cael eu heffeithio gan fwyta sbwriel ac, mewn rhai achosion, maen nhw’n ei fwydo i’w cywion. Bydd pob un darn o rwyd rwyt ti’n ei gasglu’n stopio hyn rhag digwydd.  

Rydw i hefyd yn hoffi gwneud basgedi siopa mawr. Rydw i’n defnyddio’r gwastraff i greu rhywbeth defnyddiol a fydd yn stopio pobl rhag gorfod defnyddio bag plastig wrth fynd i siopa.  

Weithiau rydw i’n gwneud cŵn bach hefyd! Mae llawer o bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro yn helpu gyda glanhau traethau. Mae mor neis gwneud anrhegion i bobl eraill sy’n helpu gyda glanhau ein traethau ni.  

Drwy greu celf o blastig traeth rydw i hefyd yn gwneud yn siŵr bod pobl yn dal i siarad am lygredd plastig ac yn addysgu mwy o bobl am sut gallan nhw fod yn rhan o’r ateb.  

Eisiau helpu?

Mae sesiynau glanhau traethau 2 funud yn gymuned ar-lein, neu'n deulu mawr, o bobl sy’n glanhau traethau! Mae gan y teulu yma bobl o bob oed, o bob cwr o'r byd. Pan fyddi di allan yn glanhau traeth gyda dy deulu, fe allwch chi dynnu llun o'r sbwriel rydych chi'n ei weld a gofyn i dy riant neu warcheidwad ddefnyddio #2minutebeachclean ar Instagram. Mae hyn yn golygu y gall eich sbwriel chi gael ei ychwanegu at gronfa ddata – dyma fydd dy ffordd di o fod yn wyddonydd ifanc a gweithredu yn erbyn llygredd plastig!

Mae bod yn lanhawr traethau’n ffordd wych o ddangos i'r lle rwyt ti'n ei fwynhau dy fod di wrth dy fodd ag o! Dydi traethau ac amgylcheddau eraill, fel parciau a meysydd chwarae, ddim yn gallu glanhau eu hunain. Drwy helpu a chasglu sbwriel gydag oedolyn, rwyt ti'n helpu'r holl anifeiliaid a’r bobl sy'n byw yno hefyd.

Dyma rai pethau pwysig iawn i'w cofio os wyt ti’n casglu sbwriel, i dy gadw di'n ddiogel:

  • Paid byth â gwneud hyn ar dy ben dy hun! Gwna’n siŵr bob amser bod oedolyn yn cadw cwmni i ti;
  • Gwna’n siŵr dy fod di'n gwisgo menig os wyt ti’n codi sbwriel, os wyt ti ar draeth neu yn dy barc lleol;
  • Mae pethau peryglus iawn yn gallu bod ar y llawr y tu allan, felly gwna’n siŵr bod oedolyn yn gweld beth wyt ti'n ei godi;
  • Cofia barchu’r môr bob amser! Mae'n amgylchedd naturiol a gall newid ei hwyliau yn gyflym iawn.

Hefyd, cofia feddwl bob amser cyn prynu plastigau defnydd sengl. Os wyt ti'n mynd ar siwrnai hir, llenwa botel ddŵr cyn mynd! Oes raid cael gwelltyn gyda diod?

Rhwydi ysbrydion

Rhwydi ysbrydion ydi rhwydi pysgota mawr sy’n cael eu colli yn y môr. Maen nhw'n arnofio o gwmpas, yn ymledu o dan y dŵr. Pan fydd hi'n boeth maen nhw'n codi ac yn dal pysgod ar y top. Pan fydd yr haul yn machlud maen nhw’n cwympo'n is i lawr, gan ddal anifeiliaid sy'n nofio yn ddyfnach. Am nad oes cwch pysgota wedi'i gysylltu â'r rhwyd, does dim pobl yno i ryddhau'r anifeiliaid. Dyna pam ei bod hi'n beryglus iawn eu cael nhw yn y môr.