Morwellt, snorcelu a gwaith tîm: stori wirfoddoli Anna

Morwellt, snorcelu a gwaith tîm: stori wirfoddoli Anna

Yn ddiweddar, Anna Williams oedd cyd-enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Gors ar gyfer Cadwraeth Forol! Fe gawson ni sgwrs gyda hi i gael gwybod mwy am ei siwrnai wirfoddoli.

Mae Anna yn Hyrwyddwr Achub Moroedd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae hi’n llysgennad dros forwellt ac mae wedi cymryd rhan mewn casglu a phlannu hadau, ac wedi siarad â gwleidyddion hefyd!

Ym mis Gorffennaf, Anna oedd cyd-enillydd gwobr arbennig iawn. Mae Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Gors ar gyfer Cadwraeth Forol yn dathlu gwaith anhygoel gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur sy’n gwarchod ein moroedd ni.

Beth am i ni glywed mwy gan Anna…

Anna Williams stands on a beach, in waterproof clothing and wellies, during one of her volunteer sessions

Anna Williams © North Wales Wildlife Trust

Anna, llongyfarchiadau ar dy fuddugoliaeth! Pam wnes di benderfynu gwirfoddoli gyda’r grŵp Hyrwyddwyr Achub Moroedd?

Roeddwn i wedi gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer y prosiect achub moroedd morwellt yn 2021 ac wedi bod yn eu dilyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol ers hynny. Fe welais i neges yn hysbysebu rhaglen Hyrwyddwyr Achub Moroedd ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn swnio'n unigryw ac yn gyffrous iawn ac felly fe wnes i benderfynu gwneud cais.

Beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli?

Fy hoff ran i am wirfoddoli yw'r holl gyfleoedd anhygoel rydw i wedi'u cael - o snorcelu dros ddolydd morwellt i gyfarfod â dirprwy brif weinidog Cymru yn y Senedd. Mae'r holl brofiadau yma wedi bod yn anhygoel ac rydw i wedi eu mwynhau nhw'n fawr iawn. Elfen arall o wirfoddoli rydw i wrth fy modd â hi ydi cael cwrdd â chymaint o bobl ddiddorol, sydd wedi cael profiadau mor wych. Rydw i wrth fy modd yn dysgu gan bobl sy'n arbenigwyr yn y maes rydw i eisiau mynd iddo yn y dyfodol.

Sut wyt ti’n meddwl wyt ti wedi elwa o wirfoddoli?

Mae gwirfoddoli wedi fy helpu i mewn cymaint o ffyrdd. Nid yn unig y mae wedi fy helpu i benderfynu pa bwnc i'w ddilyn yn y brifysgol, ond mae hefyd wedi fy helpu i ennill sgiliau hanfodol eraill, fel cyfathrebu a gwaith tîm. Cyn i mi ddechrau gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, roeddwn i'n dawel ac yn swil iawn, ond nawr rydw i wrth fy modd yn siarad â'r cyhoedd am fywyd morol mewn digwyddiadau, ac rydw i wedi cael y cyfle i siarad â gwleidyddion hyd yn oed am fy angerdd i dros ein hamgylchedd morol ni.

A group of six teenagers, volunteering with North Wales Wildlife Trust, stood on a beach, with the sea visible behind them. Anna is stood in the middle of the group

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl ifanc eraill sy'n ystyried gwirfoddoli?

Fe fyddwn i'n dweud wrth bobl ifanc eraill y dylen nhw bendant gymryd rhan mewn gwirfoddoli! Mae'n ffordd anhygoel o ddatblygu sgiliau a hyder, ac mae'n deimlad gwych gwybod eich bod chi’n cael effaith gadarnhaol. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl sydd â'r un diddordebau â chi.

Pam mae natur yn bwysig i ti?

Rydw i wedi mwynhau bod allan ym myd natur – yn enwedig bod ar y traeth – ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Roeddwn i wrth fy modd bod rhywbeth cyffrous i’w weld ym myd natur bob amser, boed yn bysgod, pryfed neu blanhigion.

Wrth i mi fynd yn hŷn, rydw i wedi dod i werthfawrogi byd natur a bywyd gwyllt fwy fyth. Rydw i wrth fy modd bod cymaint o greaduriaid deallus ym myd natur sy'n ymddwyn mewn ffyrdd mor ddiddorol, ac rydw i wrth fy modd yn arsylwi'r ymddygiadau yma.

Mae gweld cymaint o amrywiaeth wrth fod allan ym myd natur yn fy atgoffa i o ba mor bwysig yw ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd ac yn gwneud ein rhan i helpu i warchod y blaned.

Beth yw dy obeithion di ar gyfer y dyfodol? Beth sydd nesaf i ti?

Y flwyddyn nesaf, fe fydda’ i’n mynd i’r brifysgol i astudio bioleg forol – rhywbeth y mae gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi dylanwadu’n fawr arno. Rydw i’n gobeithio dal ati i wirfoddoli cymaint ag y gallaf i wrth astudio. Yn y dyfodol, rydw i’n gobeithio dal ati gyda gwaith cadwraeth fel achub moroedd morwellt, gan ei fod yn rhoi cymaint o foddhad i mi.

Children pond dipping wildlife trust

Matthew Roberts

Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi?

Dewch o hyd i ddigwyddiadau a grwpiau i gymryd rhan ynddyn nhw ar garreg eich drws

Digwyddiadau yn eich ardal chi