Rydych chi wedi cyrraedd wythnos olaf 30 Diwrnod Gwyllt. Rydych chi'n gwbl anhygoel!! Er mwyn dod â’n hantur wyllt ni i ben, rydyn ni’n awgrymu gweithgareddau creadigol! O gelf gwyllt a chrefftau natur i gerddi, lluniau a mwy, mae'n amser gadael i'ch dychymyg redeg yn wyllt.
Ond cofiwch, fe allwch chi gwblhau eich her 30 Diwrnod Gwyllt sut bynnag rydych chi’n dymuno. Felly os ydych chi eisiau dysgu mwy am fywyd gwyllt fel wnaethon ni yn wythnos tri, neu helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw fel wnaethon ni yn wythnos un – fe allwch chi fynd yn ôl at rai o'r gweithgareddau hynny wrth gwrs.
Cysylltu â byd natur ydi ein nod ni – does dim ots sut rydych chi’n gwneud hynny!
Beth bynnag rydych chi’n ei wneud, gofynnwch i'ch rhieni, gwarcheidwaid neu athrawon rannu eich cyflawniadau gyda ni ar e-bost neu drwy ein tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Llai na 10 munud
Dyma rai gweithgareddau cyflym a hawdd i'ch helpu chi i ddechrau arni - perffaith ar gyfer ychwanegu ychydig o greadigrwydd at eich diwrnod!
Llai nag awr
Ychydig mwy o amser ar gael? Beth am edrych ar y gweithredoedd yma sy'n llawn natur. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth rydych chi wedi bod yn ei wneud a pha bethau anhygoel rydych chi wedi eu creu!
Awr neu fwy
Mae’r gweithgareddau yma’n cymryd ychydig mwy o amser i’w cynllunio a’u gwneud, felly mae’n syniad da neilltuo bore neu bnawn i’w mwynhau nhw’n iawn. Cymerwch eich amser a mynd amdani – ond yn fwy na dim, mwynhewch fod yn greadigol gyda byd natur ac ynddo.

Bombardier beetle © Brian Eversham

Eleanor Church
Mynediad i’ch adnoddau digidol a mwy o syniadau am weithgareddau!
Lawrlwythwch eich adnoddau 30 Diwrnod Gwyllt am ddim ac archwilio ein holl syniadau am weithgareddau