Slefren fôr cwmpawd

Compass jellyfish

Compass jellyfish ©Alex Mustard/2020VISION

jellyfish

Richard Burkmar

Slefren fôr cwmpawd

+ -
Enw gwyddonol: Chrysaora hysoscella
Mae’n hawdd gweld o ble mae’r slefren fôr cwmpawd wedi cael ei henw – mae ei marciau brown yn edrych yn union fel cwmpawd! Er ei bod yn edrych yn hardd – mae ei brath yn gas, felly cadwch eich pellter.

Top facts

Stats

Cloch: Hyd at 30 cm ar draws

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mai - Hydref

Ynghylch

Gyda marciau brown sy’n atgoffa rhywun o gwmpawd, mae’r slefren fôr yma wir yn eithaf nodedig. Dyma ymwelydd haf â’n glannau ni ac mae’r slefren fôr cwmpawd yn bwydo ar bysgod bach, crancod a hyd yn oed slefrod môr eraill. Mae eu brath yn gas, felly os byddwch yn eu gweld yn ystod ymweliad â’r traeth – edrychwch, ond peidiwch â chyffwrdd! Ar ôl iddyn nhw frathu rhywbeth, mae Slefrod Môr yn gadael tentacl ar eu hôl yn aml ac mae hwn yn gallu dal i frathu er nad yw’n gysylltiedig â chorff y slefren fôr!

What to look for

Slefren fôr felynwyn, dryloyw gyda marciau brown o amgylch yr ymyl ac ar ben y gloch. Mae’r marciau ar ben y gloch yn debyg i gwmpawd, gyda siapiau V yn dod allan o’r pwynt canolog. Mae ganddi griw o freichiau ffriliog o dan y gloch a thentaclau ymylol hir a thenau o amgylch ymyl y gloch.

Where to find

Cyffredin oddi ar arfordir De a Gorllewin Prydain yn ystod misoedd yr haf.

Roeddech chi yn gwybod?

Gellir gweld pysgod ifanc yn nofio o amgylch tentaclau’r slefren fôr cwmpawd yn aml, sy’n eu gwarchod rhag ysglyfaethwyr. Ond dydyn ni ddim yn siŵr eto pam nad ydyn nhw’n cael eu brathu a’u bwyta gan y slefren fôr!