Morfil orca

Orca

Orca ©Gillian Day

Orca

Orca ©Chris Gomersall/2020VISION

Morfil orca

+ -
Enw gwyddonol: Orcinus orca
Mae morfil orca, sydd hefyd yn cael ei adnabod weithiau fel ‘morfil danheddog’, yn hawdd iawn ei adnabod gyda’i farciau du a gwyn. Er bod gennym ni grŵp bach o forfilod orca sy’n byw yn nyfroedd Prydain, fe fyddech chi’n lwcus iawn i’w gweld nhw!

Top facts

Stats

Hyd: hyd at 9.8 m
Pwysau: hyd at 10 tunnell
Yn byw ar gyfartaledd am: hyd at 90 mlynedd

Conservation status

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981 ac mae wedi’i restru o dan CITES, Atodiad II ac wedi’i ddosbarthu fel Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Hefyd mae’n cael ei warchod o dan Reoliadau Cadwraeth
(Cynefinoedd Naturiol ac ati) (Gogledd Iwerddon) 1998.

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Mae morfilod orca yn anifeiliaid eithriadol glyfar, gan grwydro pellteroedd maith yn chwilio am ysglyfaeth mewn grwpiau teuluol agos sy’n rhannu eu hiaith arbennig eu hunain. Mae eu marciau du a gwyn yn nodedig iawn, gan eu gwneud yn hawdd eu hadnabod. Fodd bynnag, dim ond wyth unigolyn sydd yn y gymuned o forfilod orca sy’n byw yn y DU, pedwar gwryw a phedwar benyw, ac felly mae eu gweld yn olygfa brin iawn! Yn cael eu hadnabod fel ‘cymuned arfordir y gorllewin’, mae’r grŵp yma o forfilod orca’n cyrraedd Gogledd yr Alban ddechrau’r haf i wledda ar bysgod. Yn anffodus, does dim morfil bach wedi’i eni i’r grŵp yma ers dros 20 mlynedd.

What to look for

Mae’r patrwm du a gwyn ac esgyll enfawr y cefn yn golygu ei bod yn hawdd iawn adnabod morfilod orca. Mae’r gwrywod yn fwy na’r benywod ac mae esgyll y cefn yn llawer talach ganddyn nhw, hyd at 1.8 metr o daldra weithiau. Mae asgell y fenyw tua hanner y maint yma ac yn troi am yn ôl.

Where to find

Mae grŵp preswyl yn byw mewn ardal eang o amgylch arfordir gorllewin y DU ac Iwerddon. Mae poblogaeth arall yn ymwelwyr tymhorol â Gogledd yr Alban, yn enwedig Ynysoedd Shetland ac Erch.

Roeddech chi yn gwybod?

Dolffiniaid yw morfilod orca, neu forfilod danheddog! Dyma aelod mwyaf teulu’r dolffiniaid ac mae eu henw wedi tarddu’n wreiddiol o’r term “llofrudd morfil”, gan ein bod yn gwybod eu bod yn cydweithio i ladd morfilod llawer mwy na hwy eu hunain.