Llamhidydd

Harbour Porpoise

Harbour Porpoise ©Niki Clear

Llamhidydd

+ -
Enw gwyddonol: Phocoena phocoena
Er ei fod braidd yn swil, mae’r mamal morol rhyfeddol yma i’w weld yn agos at y lan mewn dyfroedd bas. Os byddwch chi’n llwyddo i fynd yn agos ato, cofiwch wrando am y sŵn ‘pwffian’ uchel mae’n ei wneud wrth ddod i fyny i’r wyneb am anadl!

Top facts

Stats

Hyd: 1.4-2 m
Pwysau: 55-65 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: hyd at 20 mlynedd

Conservation status

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981 ac mae wedi’i restru o dan CITES, Atodiad II ac wedi’i ddosbarthu fel Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Hefyd mae’n cael ei warchod o dan Reoliadau Cadwraeth
(Cynefinoedd Naturiol ac ati) (Gogledd Iwerddon) 1996.

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Mae’n hawdd gweld y llamhidydd yn agos at y lan mewn dŵr bas, naill ai ar ben ei hun neu mewn grwpiau bach. Mae’n famal swil a bydd yn osgoi cychod a jet-sgïs. Os byddwch yn llwyddo i fynd yn ddigon agos at lamhidydd, efallai y clywch chi ei sŵn “pwffian” uchel wrth iddo ddod i’r wyneb am aer. Dyma sy’n rhoi ei lysenw “mochyn pwffian” iddo! Mae’r llamhidydd yn rhoi genedigaeth i lo bach bob 1 i 2 flynedd.

What to look for

Cadwch lygad am asgell fechan drionglog ar y cefn yn dod i’r wyneb. Mae’r llamhidydd yn fach a byrdew gyda chefn llwyd tywyll a’r bol oddi tanodd yn oleuach. Mae ei wyneb yn grwn ac nid oes ganddo big.

Where to find

I’w weld ledled y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae llamhidyddion yn beiriannau bwyta! Mamaliaid gwaed cynnes yw llamhidyddion a gan eu bod yn fach mae’n rhaid iddyn nhw fwydo’n gyson er mwyn cynnal tymheredd eu corff yn y môr oer. Maen nhw’n bwydo ar bysgod yn bennaf, gan gynnwys llysywod y tywod, penwaig a gwyniaid.