Crwban môr cefn-lledr

Leatherback turtle

Leatherback turtle ©Mike Dains

Crwban môr cefn-lledr

+ -
Enw gwyddonol: Dermochelys coriacea
Yn gawr ym myd y crwbanod môr, mae’r crwban môr cefn-lledr yn crwydro’r cefnfor gan chwilio am slefrod môr. Yn wahanol i grwbanod môr eraill, mae’r crwban môr cefn-lledr yn hoffi’r oerni! Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu deifio’n ddwfn iawn lle mae’r môr yn llawer oerach i gael y dewis cyntaf o holl slefrod môr y cefnfor dwfn.

Top facts

Stats

Hyd: Hyd at 2.5 m
Pwysau: 250-700 kg
Yn byw am: hyd at 100 mlynedd

Conservation status

Bregus, gyda llawer o boblogaethau mewn perygl difrifol ac yn wynebu diflaniad. Yn y DU, mae’n Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Mai - Medi

Ynghylch

Mae’r cawr yma ym myd y crwbanod môr yn teithio ar ei ben ei hun, gan gyfarfod â chrwbanod môr eraill er mwyn magu yn unig. Mae’n dodwy ei wyau ar draethau ac yn eu gadael heb oruchwyliaeth, ac mae’r crwbanod bach yn gorfod dod o hyd i’w ffordd eu hunain i’r môr ar ôl iddyn nhw ddeor. Mae’r anifeiliaid unigryw yma wedi addasu’n arbennig i allu ymdopi â moroedd oerach, sy’n golygu eu bod yn gallu deifio’n ddwfn iawn er mwyn hela am slefrod môr y dyfnderoedd. Mae ganddyn nhw ffordd anhygoel (ac ychydig yn ffiaidd) o sicrhau nad ydyn nhw byth yn colli pryd bwyd – mae ganddyn nhw bigau sy’n wynebu ar i lawr y tu mewn i’w gwddw sy’n atal unrhyw ysglyfaeth rhag dod allan. Yn anffodus, mae’r crwban môr cefn-lledr yn gallu drysu a bwyta bagiau plastig neu falŵnau ar ddamwain, gan eu bod yn edrych fel slefrod môr. Wedyn mae’r eitemau plastig yma’n mynd yn styc yn eu gwddw a gall hyn achosi problemau difrifol i’r crwban môr.

What to look for

Crwban môr mawr du gyda smotiau gwynion dros ei gorff i gyd, ei ffliperi a’i ben. Mae o dan ei fol ychydig yn ysgafnach gyda lliw pinc o dan y gwddw a’r ên. Gall ei ffliperi blaen gyrraedd hyd at 2.5 m. Pur anaml mae rhywogaethau eraill o grwbanod môr yn ymweld â dyfroedd y DU, ond maen nhw’n wahanol i’r crwbanod môr cefn-lledr gan fod ganddyn nhw gragen galed ac maen nhw’n wyrdd/ brown eu lliw. Does gan grwbanod môr cefn-lledr ddim cragen galed ac mae croen eu cefn fel lledr.

Where to find

Golygfa brin oddi ar arfordir y gorllewin yn ystod misoedd yr haf, pur anaml mae i’w weld yn unrhyw foroedd eraill yn y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Does gan grwbanod môr cefn-lledr ddim cragen galed, esgyrnog fel crwbanod môr eraill. Yn hytrach, mae eu cefn wedi’i orchuddio gan haen drwchus fel lledr o groen sy’n rhoi eu henw iddyn nhw.