Cacynen cynffon lwydfelyn

Buff-tailed Bumblebee

Buff-tailed Bumblebee ©Jon Hawkins - Surrey Hills Photograhpy

Cacynen cynffon lwydfelyn

+ -
Enw gwyddonol: Bombus terrestris
Cadwch lygad am y cewri yma ym myd y cacwn yn ystod y gwanwyn. Maen nhw i’w gweld yn suo o flodyn i flodyn yn sugno’r paill.

Top facts

Stats

Hyd: 2.0-2.2 cm

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mawrth - Awst

Ynghylch

Y gacynen cynffon lwydfelyn yw’r gacynen fwyaf ym myd y cacwn ac mae’n dod allan yn gynnar yn y gwanwyn. Mae’n cael ei henw ar ôl cynffon lliw llwydfelyn y frenhines, gan mai cynffonnau gwynion i gyd bron sydd gan y gweithwyr, sy’n eu gwneud yn hawdd eu camgymryd am y gacynen cynffon wen! Maen nhw wrth eu bodd gyda phob math o flodau, ond yn enwedig blodau agored tebyg i lygad y dydd, gan ei bod yn haws iddyn nhw gyrraedd y neithdar gyda’u tafodau hir. Maen nhw’n nythu o dan y ddaear mewn grwpiau mawr o hyd at 600 o gacwn gan ddefnyddio hen nythod mamaliaid yn aml.

What to look for

Mae gan y gacynen cynffon lwydfelyn goler felen wrth ymyl ei phen ac un arall ar ei habdomen. Mae gan y frenhines ‘gynffon’ lwydfelyn, ac mae gan y gweithwyr ‘gynffonnau’ gwynion gyda llinell lwydfelyn wan yn ei gwahanu oddi wrth weddill yr abdomen. Mae gan y gwrywod arlliw o lwydfelyn ar eu cynffonnau a hefyd blew du ar eu hwynebau.

Where to find

I’w gweld mewn ardaloedd o dir isel ledled y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae cacwn cynffonnau llwydfelyn yn cael eu hadnabod fel ‘lladron neithdar’: os byddant yn gweld blodyn sy’n rhy ddwfn i’w tafod, maen nhw’n brathu twll yn ei waelod ac yn sugno’r neithdar allan ohono. Wedyn, bydd pryfed eraill sy’n chwilio am neithdar yn defnyddio’r twll hwylus yma.