Timmy Time zone

Sign up banner for hedgehog walk in Welsh

Wyt ti'n barod i ymuno â Thaith Gerdded y Draenogod?

Rhwng 31ain Mawrth a 13eg Ebrill, wyneba’r her i gerdded 3km a chodi arian ar gyfer bywyd gwyllt ar yr un pryd! Mae'n swnio fel taith gerdded hir! Ond oeddet ti'n gwybod bod draenogod yn gallu cerdded hyd at 3km mewn un noson wrth iddyn nhw chwilota am fwyd?

Rydyn ni wedi ymuno â’n ffrindiau ni yn Aardman, felly bydd yn barod i ymuno â dy hoff gymeriadau o Timmy Time ar gyfer yr antur gyffrous yma. Pan fyddi di'n cofrestru ar gyfer Taith Gerdded y Draenogod, nid dim ond yr awyr iach a symud ym myd natur fyddi di'n ei fwynhau – rwyt ti'n helpu i godi arian ar gyfer bywyd gwyllt a gwneud mwy o lefydd i ddraenogod fel Apricot, a moch daear fel Stripey, fyw.

Os byddi di’n cerdded gyda theulu neu fel grŵp, bydd cyfle i ti archwilio ein byd gwyllt ni a helpu byd byd natur y gwanwyn yma!

Cofrestrwch fel teulu

Cofrestrwch fel ysgol neu feithrinfa

Cofrestrwch fel clwb

Dewiswch glip a gwyliwch beth mae Timmy a'i ffrindiau yn ei wneud ar eu hanturiaethau awyr agored!

DAWNSIO GYDA TIMMY

Gwyliwch Timmy a'i ffrindiau yn cael symud yn slic wrth iddyn nhw ddysgu symudiadau dawns newydd!

GWYRTH Y GWANWYN

Gwyliwch Timmy a'i ffrindiau yn cael bysedd gwyrdd wrth fod yn brysur yn yr ardd yn plannu hadau.

GWYRTH Y GWANWYN

Mae Timmy a'i ffrindiau yn ailymweld â'r hadau wnaethon nhw eu plannu i ddarganfod beth ydyn nhw nawr ar ôl tyfu!

Picnic

Criw Timmy Time yn mynd ar helfa chwilota!

PICNIC

Mae Timmy a'i ffrindiau yn dysgu pwysigrwydd tacluso ar eu hôl

TUNIAU

Timmy a'i ffrindiau yn brysur yn ailgylchu!

TUNIAU

Bydd criw Timmy Time yn greadigol gydag ychydig o uwchgylchu!

© a TM Aardman Animations 2025. Cedwir pob hawl. Mae 'Timmy Time' (nod gair) a'r cymeriad 'Timmy' yn nodau masnach a ddefnyddir dan drwydded gan Aardman Animations