Mae gan y DU fywyd gwyllt bendigedig, ond mae rhai anifeiliaid oedd yn arfer byw yma wedi mynd ar goll erbyn hyn. Fe gafodd llawer eu colli oherwydd hela gan bobl, neu oherwydd bod pobl wedi newid eu cynefin nhw. Yn y dyfodol, efallai y bydd rhai o'r anifeiliaid yma’n gallu dod yn ôl. Ond mae eraill wedi cael eu colli o'r ddaear am byth. Dyma WYTH o rywogaethau coll y DU!
Brown bear © Miller_Eszter
Arth frown
Filoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd eirth brown (brown bears) i'w gweld ym mhob man yn y DU. Ond, oherwydd bod pobl yn ei hela ac yn torri coetiroedd, fe ddiflannodd yr arth frown o'r DU tua 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw, mae eirth brown yn byw yng nghoedwigoedd a mynyddoedd Gogledd America, cyfandir Ewrop ac Asia.
Wolf © Miller Eszter
Blaidd
Y blaidd (wolf ) ydi hynafiad ein cŵn anwes ni. Mae bleiddiaid yn byw mewn grŵp o'r enw haid ac yn hoffi crwydro dros ardaloedd eang o goetir a glaswelltir. Roedden nhw'n arfer byw ym mhob rhan o'r DU. Ond, oherwydd bod pobl yn torri coedwigoedd ac yn dal a hela bleiddiaid, fe wnaethon nhw ddiflannu yma. Fe gafodd y blaidd olaf ym Mhrydain ei ladd tua'r flwyddyn 1760. Heddiw mae bleiddiaid yn byw yng Nghanada a Gogledd America, ac ar draws llawer o wledydd yn Ewrop ac Asia.
Lynx © Berndt Fischer
Lyncs
Cath o faint canolig gyda ffwr euraidd a smotiau du ydi'r lyncs. Mae ganddi gynffon fer a chudynnau o wallt ar dop ei chlustiau. Mae'r lyncs yn byw mewn ardaloedd gyda llawer o goed. Fe ddiflannodd y lyncs o’r DU tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, oherwydd hela a phobl yn torri ei chartref i lawr, sef coedwigoedd. Mae posib dod o hyd i lyncs mewn dipyn o wledydd Ewropeaidd, fel yr Almaen, Gwlad Pwyl a'r Eidal.
European elk © Erik Karits
Elc
Carw mawr oedd yn gyffredin ym Mhrydain ar un adeg ydi'r elc Ewropeaidd. Er mwyn byw yn hapus, mae angen gofod mawr o goedwig a thir gwlyb. Fe ddaeth yr elc i ben ym Mhrydain tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl oherwydd ei fod yn cael ei hela am ei gig a'i groen, a newidiadau i'w gynefin. Heddiw, mae'r elc i'w weld ar draws Gogledd America (lle mae'n cael ei alw'n mŵs), Gogledd Ewrop ac Asia.
Mike Pennington / Great auk (Pinguinis impennis) specimen, Kelvingrove, Glasgow / CC BY-SA 2.0
Carfil mawr
Aderyn môr mawr oedd y carfil mawr (great auk). Roedd yn debyg i bâl, ond bedair gwaith yn dalach a doedd o ddim yn gallu hedfan. Roedd yn byw ar hyd arfordiroedd creigiog Gogledd America ac ar draws yr Iwerydd i Sgandinafia a'r DU. Am nad oedd o’n gallu hedfan, roedd yn hawdd i bobl ei hela am ei gig a’i blu. Erbyn tua'r flwyddyn 1850, roedd y carfil mawr wedi dod i ben yn llwyr. Doedd dim un ar ôl yn unrhyw le yn y byd.
Wryneck © Pete Richman
Pengam
Cnocell fechan ydi'r pengam (wryneck). Roedd yn gyffredin ar un adeg yng Nghymru a Lloegr, yn nythu mewn perllannau a pharciau. Yn anffodus, dydi'r pengam ddim yn nythu yma yn rheolaidd. Efallai mai colli ei gynefin a defnyddio plaladdwyr sydd ar fai. Mae'r pengam yn dal i nythu ar draws llawer o Ewrop a thrwy Asia i Japan, gyda'r rhan fwyaf yn symud i'r de am y gaeaf. Yn y gwanwyn a'r hydref, maen nhw'n pasio drwy'r DU weithiau wrth fudo.
Blue stag beetle © Johannes Sander under CC 4.0
Chwilen gorniog las
Mae'r chwilen gorniog las (blue stag beetle) yn tyfu i fwy nag un centimetr o hyd ac mae'n ddu gyda sglein glas neu wyrdd metelaidd. Mae'n drychfil cyffredin mewn ardaloedd o goetir yn Ewrop ac roedd yn byw ym Mhrydain ar un adeg. Ond dydi hi ddim wedi cael ei gweld yma ers y 1800au. Dydi gwyddonwyr ddim yn siŵr pam mae hi wedi cael ei cholli. Efallai ei bod hi wedi bod yn brin erioed. Mae ei chyfnither fwy, y chwilen gorniog, i'w gweld o hyd yn ne Lloegr.
Large copper © Erik Karits
Copor mawr
Glöyn byw oren gyda du ar ymyl ei adenydd ydi'r copor mawr (large copper). Roedd yn byw yn nwyrain Lloegr, yn hoff iawn o ardaloedd gwlyb o dir. Fe ddiflannodd tua 1850, oherwydd bod y tir lle'r oedd yn byw wedi cael ei ddraenio er mwyn plannu cnydau. Mae i'w weld yng nghanolbarth Ewrop ac yn Asia erbyn hyn.