Woohoo – beth am fod yn wyllt yn ystod mis Mehefin!
Rydyn ni mor gyffrous eich bod chi'n mynd i gael 30 Diwrnod Gwyllt gyda ni yn ystod mis Mehefin eleni! Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar ein hantur gyda'n gilydd.
Oedolion, byddwn yn anfon e-bost atoch chi yn fuan, i gadarnhau eich cofrestriad gyda 30 Diwrnod Gwyllt. Os ydych chi wedi dewis pecyn post, bydd yn cael ei anfon allan rhwng canol a diwedd mis Mai yn barod ar gyfer 1af Mehefin. Mae hynny'n golygu, os ydych chi wedi cofrestru'n gynnar, y bydd ychydig o oedi efallai cyn i chi ei dderbyn. Ond peidiwch â phoeni, os ydych chi’n awchu am ddechrau cynllunio ar unwaith, fe allwch chi gael y blaen drwy lawrlwytho eich adnoddau digidol am ddim heddiw, gan gynnwys canllawiau gweithgarwch a thaflenni adnabod bywyd gwyllt!
Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ychwanegu 30dayswild@wildlifetrusts.org at eich rhestr o anfonwyr diogel yn eich mewnflwch, oherwydd byddwn yn anfon llawer o ysbrydoliaeth a chefnogaeth atoch chi a’ch criw ar e-bost wrth i ni symud drwy 30 Diwrnod Gwyllt.
Lawrlwythwch eich adnoddau digidol nawr
30 Diwrnod Gwyllt i addysgwyr
Ydych chi'n addysgwr? Gallwch gael mynediad at ein hôl-gatalog o gynlluniau gwersi 30 Diwrnod Gwyllt! Maen nhw wedi cael eu cynllunio i fod yn arbennig o addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, er bod croeso i chi addasu unrhyw un ohonyn nhw ar gyfer grwpiau Cyfnod Allweddol eraill.
Ar gyfer rhieni / gwarcheidwaid / addysgwyr - rhannu 30 Diwrnod Gwyllt!

Lawrlwythwch ein llun ni isod i'w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Cynnig anhygoel
Mae ein ffrindiau ni yn Seedball eisiau helpu i sicrhau bod eich hoffter chi o’r gwyllt yn arwain at dyfu yn ystod mis Mehefin, gyda gostyngiad o 50% ar gynhyrchion Seedball pan fyddwch chi'n defnyddio'r cod WILD50 wrth y ddesg dalu!
Nod Seedball yw helpu i gynyddu'r cyfoeth o flodau gwyllt Prydeinig a’r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw. Fe allwch chi droi eich gardd, balconi neu focs ffenest yn warchodfa bywyd gwyllt fechan gyda'u hamrywiaeth o beli hadau cynaliadwy a hawdd eu tyfu. Does dim angen gwasgaru’r hedyn, na’i blannu hyd yn oed! Dim ond ei roi ar ben pridd, dyfrio a’i wylio yn tyfu.
*Dydi’r cynnig yma ddim yn cynnwys eitemau personol, talebau anrheg, eitemau sydd eisoes ar werth na’r holl eitemau ar eu tudalen siop gyfanwerthu. Mae’r cynnig yn dod i ben ar 30ain Mehefin 2025.

Bathodyn ffabrig!
Bydd y bathodynnau defnydd i’w casglu gan Pawprint Family yn ôl eleni. Gallwch eu harchebu ar eu gwefan.