30 Diwrnod Gwyllt yw her natur fwyaf y DU!
Rydyn ni’n gofyn i blant (ac oedolion hefyd!) wneud un peth gwyllt bob dydd (neu ychydig o bethau gwyllt yr wythnos) ym mis Mehefin. Mae'r cyfan yn ymwneud â chodi allan, archwilio byd natur a chael llond gwlad o hwyl!
Fe allwch chi roi cynnig ar bethau fel gwrando ar gân adar, mynd ar helfa mân drychfilod, plannu blodau gwyllt i helpu gwenyn a gwneud llun natur allan o ddail a brigau.
Mae’r cofrestru ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt 2026 ar gau bellach
Ond fe allwch chi ddal ati i fod yn wyllt drwy gydol y flwyddyn! Dyma rai pethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:
• Dewis gweithgaredd i helpu bywyd gwyllt
• Argraffu taflen liwio
• Dod o hyd i warchodfa natur yn eich ardal chi i’w harchwilio
• Dysgu mwy am fywyd gwyllt yn ein parth bywyd gwyllt!
Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt i rieni / gwarcheidwaid / athrawon
Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her am fis, am ddim, wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithred - mawr neu fach, bob dydd neu'n wythnosol - yn eich helpu chi i ymgysylltu â'r byd naturiol.