Wyt ti'n barod i ymgymryd â her 30 Diwrnod Gwyllt? Rydyn ni'n gwybod y galli di wneud hyn!
Rydyn ni'n gofyn i blant (ac oedolion hefyd!) wneud un peth gwyllt y dydd (neu ychydig o bethau gwyllt yr wythnos) ym mis Mehefin. Mae'r cyfan yn ymwneud â mynd allan, archwilio byd natur a chael llond gwlad o hwyl!
Cofrestru i gymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt
Mae cymaint o weithgareddau cyffrous i roi cynnig arnyn nhw, fel:
- Plannu blodau gwyllt i helpu gwenyn
- Gwrando ar gân adar
- Mynd ar helfa mân-drychfilod
- Gwneud llun natur allan o ddail a brigau
Fe alli di wneud un gweithgaredd bob dydd neu ychydig bob wythnos – ti sydd i benderfynu. Y peth pwysicaf ydi cael hwyl a darganfod y byd gwyllt o dy gwmpas di
Cael dy nwyddau 30 Diwrnod Gwyllt AM DDIM
Gofyn i dy riant, gwarcheidwad neu athro / athrawes dy gofrestru di. Bydd nwyddau am ddim yn cael eu hanfon atat ti a bydd dy oedolyn di’n derbyn e-byst dyddiol yn llawn ffeithiau cŵl am fyd natur a heriau hwyliog i dy helpu di i gwblhau dy fis gwyllt.
Cofrestra ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt nawr
Wyt ti'n barod i gofrestru? Rydyn ni’n gyffrous am dy gael di’n rhan o’r her! Dim ond nifer gyfyngedig o nwyddau drwy'r post sydd ar gael, felly cofia gofrestru’n gynnar.
Cofrestru i gymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt
Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt i rieni / gwarcheidwaid / athrawon
Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her am fis, am ddim, wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithred - mawr neu fach, bob dydd neu'n wythnosol - yn eich helpu chi i ymgysylltu â'r byd naturiol.