Sut i wneud compost dy hyn

Mae compostio eich gwastraff gardd a chegin yn cynnig llawer o fanteision. Byddwch yn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Byddwch hefyd yn gallu darparu cartref a ffynhonnell fwyd ar gyfer amrywiaeth o fân drychfilod sy'n rhan hanfodol o'r gadwyn fwyd. Mae'r mân drychfilod sy'n byw yng nghanol y gwastraff yn helpu'r broses bydru, ac yn eu tro mae'r mân drychfilod yma’n fwyd blasus i ddraenogod ac anifeiliaid eraill. Unwaith y byddwch wedi gwneud compost, gallwch ei ddefnyddio wedyn i helpu planhigion i dyfu, gan y bydd yn llawn maethynnau gwych!

Y cyfan sydd arnoch ei angen ar gyfer tomen gompost lwyddiannus yw gwastraff, aer a dŵr!

Sut i ddechrau arni

Y cyfan sydd arnoch ei angen ar gyfer tomen gompost lwyddiannus yw gwastraff, aer a dŵr! Mae tomen syml wedi'i gorchuddio â hen garped neu blastig yr un mor effeithiol â 'bin'. Yr unig fantais o gynhwysydd yw ei fod yn edrych yn daclusach a gall fod yn haws ei reoli. Ceisiwch ddewis llecyn cysgodol i gadw pethau'n llaith, a rhowch dŵr ar unrhyw gynhwysion sych rydych chi’n eu hychwanegu.

compost worm

BETH I’W ROI YN EICH COMPOST

  • Toriadau glaswellt a dail marw
  • Gweddillion a chroen ffrwythau a llysiau
  • Cardfwrdd plaen (nid y math sgleiniog fel bocsys grawnfwyd)
  • Hen flodau wedi'u torri a phlanhigion gwely blodau
  • Tocion a phlanhigion marw
  • Coffi mâl
  • Bagiau te (gwnewch yn siŵr nad yw eich bagiau te’n cynnwys plastig i ddechrau!)
  • Tail unrhyw anifeiliaid anwes iach sy'n bwyta llysiau, gan gynnwys gerbilod, cwningod, bochdewion ac adar, a hefyd unrhyw wely iddynt wedi’i wneud o ddeunydd naturiol neu bapur newydd
  • Plisg wyau – mae'r rhain yn helpu i gadw'r domen rhag arogli
  • Papurau newydd – gall papur wedi'i rwygo helpu i amsugno lleithder gormodol mewn tomen

 

Peidiwch â rhoi’r canlynol yn eich compost:

Bwyd wedi'i goginio, lludw glo a chôc, cig a physgod, esgyrn, sbwriel cathod, tail cŵn, cewynnau tafladwy, papur sgleiniog, chwyn, coesynnau coediog, neu blanhigion heintus.

CYNGOR DOETH AR GYFER COMPOSTIO

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gymysgedd dda o eitemau. Os oes gennych chi lawer iawn o eitemau y gellir eu compostio i gael gwared arnyn nhw, fel tocion gwrychoedd neu fagiau o laswellt wedi'i dorri, mae'n werth defnyddio eich bin gwastraff gardd yn lle’r domen gompost
  • Mae compostio'n gweithio orau os byddwch chi'n ychwanegu cryn dipyn o ddeunydd ar y tro, felly mae'n well cadw sbarion y gegin a'u hychwanegu at y domen gyda hen doriadau planhigion
  • Mae eich compost yn barod i'w ddefnyddio pan mae’n dywyll a briwsionllyd
Compost simple

More ways to help wildlife!