Beth yw Taith Gerdded y Draenogod?
Taith Gerdded y Draenogod yw her codi arian flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer archwilwyr bach, lle rydyn ni’n gofyn i deuluoedd, ysgolion, clybiau a grwpiau dysgu gerdded 3km rhwng 31ain Mawrth a 30eg Ebrill a chodi arian ar gyfer ein gwaith hanfodol ni.
Ble mae Taith Gerdded y Draenogod yn digwydd?
Fe allwch chi wneud Taith Gerdded y Draenogod yn unrhyw le! Digwyddiad codi arian rhithwir ydi Taith Gerdded y Draenogod, sy’n golygu y gallwch chi gwblhau eich her lle bynnag rydych chi’n dymuno.
Pam mai Taith Gerdded y Draenogod ydi enw'r her yma?
Fe wnaethon ni enwi ein her yn Daith Gerdded y Draenogod oherwydd ein bod ni eisiau i chi a'ch rhai bach gerdded 3km dros gyfnod o fis ac mae astudiaethau wedi dangos bod draenogod yn gallu cerdded hyd at 3km yn ystod y nos wrth chwilota am fwyd!
Beth os nad oes gennym ni fynediad i fyd natur?
Rydyn ni’n annog pawb i godi allan i fyd natur os ydi hynny’n bosib, ond rydyn ni’n deall nad ydi llefydd gwyllt yn hygyrch i bawb (eto).
Os nad oes gennych chi fynediad i ofod gwyllt, fe allwch chi gwblhau eich her lle bynnag y gallwch chi. Fe allech chi wneud y canlynol:
• Mynd am dro drwy eich parc lleol, cae chwarae neu yn eich gardd
• Cerdded i'r ysgol bob dydd drwy gydol Taith Gerdded y Draenogod
Os ydych chi eisiau help neu gyngor i ddod o hyd i lwybrau cerdded lleol, fe allech chi wneud y canlynol:
• Dod o hyd i'ch Ymddiriedolaeth Natur leol
• Dod o hyd i'ch gwarchodfa natur agosaf
•Dod o hyd i lwybr cerdded yn eich ardal chi
Os ydych chi'n cwblhau Taith Gerdded y Draenogod fel ysgol neu grŵp dysgu, mae gennym ni lawer o syniadau i'ch helpu chi a’ch rhai bach i gwblhau eich her. Ewch i'n tudalen adnoddau ni i gael gwybod mwy.
Sut mae cofrestru?
Fe allwch chi ddefnyddio'r platfform Raisely i gofrestru a chreu tudalen codi arian - dewiswch ymuno fel unigolyn, teulu, ysgol, clwb, neu grŵp.
Sut ydw i'n cael mynediad i fy nghyfrif?
Defnyddiwch y dudalen mewngofnodi ar Raisely - os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, dilynwch y camau adfer cyfrinair.
Ydw i’n gallu rhannu fy nhudalen gyda theulu a ffrindiau?
Yn sicr - defnyddiwch y dolenni rhannu o'ch dangosfwrdd Raisely i bostio drwy e-bost, ar gyfryngau cymdeithasol, neu drwy negeseuon.
Oes rhaid i mi dalu am gymryd rhan?
Nac oes, mae ymuno â her Taith Gerdded y Draenogod am ddim. Bydd pawb sy'n codi £30 drwy ein tudalennau codi arian ni’n derbyn clwtyn gwnïo (cyfyngedig i un fesul pob tudalen codi arian)
Sut mae creu neu ymuno â thîm?
Pan fyddwch chi’n cofrestru, fe allwch chi ddewis yr opsiwn i greu tîm ac anfon gwahoddiadau at aelodau eraill o'ch tîm i ymuno. Hefyd mae opsiwn i ddod o hyd i dîm sy'n bodoli eisoes pan fyddwch chi'n cofrestru drwy nodi enw'r tîm.
I ble fydd yr arian rydw i’n ei godi o Daith Gerdded y Draenogod yn mynd?
Drwy godi arian ar gyfer Taith Gerdded y Draenogod, bydd eich rhoddion yn cefnogi cenhadaeth yr Ymddiriedolaethau Natur i warchod 30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030 fel rhan o'n hymgyrch 30 erbyn 30 ni. Bydd hyn yn ein helpu ni i wneud mwy o lefydd i ddraenogod fel Apricot a moch daear fel Stripey fyw.
Sut ydw i'n casglu rhoddion?
Ar ôl creu eich tudalen codi arian, rhannwch y ddolen - gall cefnogwyr gyfrannu rhoddion yn uniongyrchol drwy Raisely.
Mae rhywun wedi rhoi arian parod i mi – beth ddylwn i ei wneud?
Cyflwynwch y cyfraniad yn faniwal drwy eich tudalen codi arian ar-lein, fel ei fod yn cael ei dracio ac yn cyfrif tuag at eich nod.
Fel arall, fe allwch chi dalu unrhyw roddion all-lein drwy'r botwm cyfrannu ar wefan yr Ymddiriedolaethau Natur ond ychwanegwch nodyn yn y maes testun yn dweud "Taith Gerdded y Draenogod - ffurflen nawdd i ddilyn" oherwydd does dim modd i ni hawlio cymorth rhodd ar yr arian yma. Mae croeso i chi hefyd anfon siec wedi'i hamgáu gyda'r ffurflenni.
Dylai'r siec fod yn daladwy i The Royal Society of Wildlife Trusts. Mae posib anfon ffurflenni nawdd wedi’u hargraffu a sieciau i The Wildlife Trusts, Mather Road, The Kiln, Newark, NG24 1WT.
Ydw i'n cael unrhyw beth am gymryd rhan?
Bydd pawb sy’n codi £30 drwy ein tudalennau codi arian ni’n derbyn clwtyn gwnïo (cyfyngedig i un fesul pob tudalen codi arian), yn ogystal â thystysgrif y byddwn yn ei hanfon atoch chi ar e-bost ar ôl i’r her ddod i ben.
Os ydych chi'n cymryd rhan yn Nhaith Gerdded y Draenogod fel ysgol, clwb neu grŵp dysgu ac yn codi £30, bydd eich rhai bach yn derbyn taflen sticeri Taith Gerdded y Draenogod (wedi'i chyfyngu i un ar gyfer pob tudalen codi arian) i ddweud diolch! Bydd ysgolion hefyd yn derbyn poster wedi’i argraffu am godi £30.
Can I purchase The Hedgehog Walk sew-on patches for groups?
From popular demand we are pleased to say that the patches will become available to purchase after the challenge finishes from 30th April 2026.
We’re holding them back until then to make sure all our amazing fundraisers receive theirs first, as our way of saying thank you for helping wildlife. Stocks will be limited once they go on general sale and we will be sharing details of how buy these closer to the time.
Ble mae dod o hyd i'r adnoddau y mae posib eu lawrlwytho am ddim?
Ar ôl i chi gofrestru i gymryd rhan, byddwch yn derbyn e-bost gennym ni gyda dolenni i'ch adnoddau Taith Gerdded y Draenogod (gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn eich ffolder jync!)
Sut gallaf i helpu draenogod wrth i mi gwblhau taith gerdded y draenogod?
Mae draenogod yn rhywogaeth nosol ac ni ddylid tarfu arnyn nhw yn ystod y dydd. Ond gallai cymryd rhan yn Nhaith Gerdded y Draenogod eich ysbrydoli chi i helpu ein ffrindiau pigog ni ac mae gennym ni lawer o adnoddau i'ch helpu chi i ddechrau arni. Mae gan ein tudalen rhywogaeth ni ar gyfer y draenog lawer o wybodaeth lle gallwch chi ddysgu mwy am ddraenogod. Fe allwch chi hefyd fynd i'n tudalen helpu draenog ni a dysgu mwy am y bygythiadau maen nhw'n eu hwynebu.
Beth yw bathodynnau codi arian?
Gwobrau digidol yw bathodynnau rydych chi'n eu hennill am gerrig milltir fel camau a gymerwyd neu arian a godwyd. Maen nhw ar gael i chi yn eich dangosfwrdd Raisely.
Ydw i’n gallu canslo fy nhudalen codi arian?
Mae hynny'n iawn, mae pethau'n codi! Cysylltwch â ni ac fe allwn ni ddileu eich tudalen codi arian o'r ymgyrch.
Oes posib i mi gysylltu â'r Ymddiriedolaethau Natur os oes gen i gwestiynau am Daith Gerdded y Draenogod?
Oes, fe allwch chi anfon e-bost atom ni ar hello@wildlifetrusts.org neu ein ffonio ni ar 01636 677711.