Creaduriad cryptig

Nightjar

Nightjar © David Tipling/2020VISION

Creaduriaid cryptig

Cuddliw

Mewn byd o fwyta neu gael dy fwyta, mae anifeiliaid yn meddwl am driciau clyfar i guddio. Lliwiau cryptig (cuddio o’r golwg) neu ddynwared (gwneud i ti dy hun edrych fel rhywbeth arall) ydi’r ddwy ffordd hawsaf o osgoi bod yn ginio i rywun.

Nightjar

Nightjar © David Tipling/2020VISION

1. Troellwr mawr

Aderyn y nos ydi hwn ac mae’n hela yn ystod y nos. Yn ystod y dydd, mae’n llechu yng nghanol sbwriel dail o dan goed, neu mewn rhostir. Gyda’i blu brown brych a’i siâp fflat, mae’n edrych yn debyg iawn i ddarn o bren.

Buff-tip moth

Buff-tip moth © Vaughn Matthews

2. Gwyfyn les brwsel

Mae lindysyn gwyfyn les brwsel yn gallu chwarae tric clyfar. Mae’n bwydo ar gen sy’n tyfu ar risgl coed, a allai ei wneud yn darged hawdd. Felly, i gadw’n ddiogel, mae wedi cymryd lliw y cen mae’n bwydo arno. Mae ei gorff yn frych hyd yn oed, i wneud iddo edrych fel y gwead. Cuddio o dan dy drwyn!

Ringed plover

Ringed plover © Tom Hibbert

3. Cwtiad torgoch

Rhaid i’r cwtiad torgoch gadw ei wyau bregus allan o’r golwg. Mae’n nythu ar dir noeth ar draeth o ro neu gerrig mân, felly mae’n hawdd i ysglyfaethwr fwyta ei gywion blasus. Ond wrth lwc mae’r wyau’n frychau llwyd a du ac felly’n edrych yn union fel y cerrig mân.

Brimstone butterfly

Brimstone butterfly © Vaughn Matthews

4. Glöyn y brwmstan               

Mae glöyn y brwmstan yn cysgu drwy’r gaeaf oer fel oedolyn. Rhag cael ei fwyta yng nghanol y gaeaf gan unrhyw ysglyfaethwr sy’n pasio, mae ei adenydd melyn yn bigfain, i edrych fel dail yr hydref. Drwy guddio fel hyn yn glyfar, mae’n gallu deffro’n ddiogel yn y gwanwyn.

Hoverfly (Syrphus torvus)

Hoverfly (Syrphus torvus) © Chris Lawrence

5. Pryfed hofran        

Mae llawer o wahanol fathau o bryfed hofran yn y byd ond maen nhw i gyd yn chwarae gêm glyfar i osgoi cael eu bwyta. Maen nhw’n cogio bod yn wenyn a chacwn! Maen nhw’n dychryn ysglyfaethwyr gyda’u streipiau melyn a du ar eu cyrff, er eu bod nhw’n gwbl ddiniwed.