Y gog

Cuckoo

©Amy Lewis

Cuckoo in flight

©David Tipling/2020VISION

Cuckoo chick and reed warbler

©David Tipling/2020VISION

Y gog

+ -
Enw gwyddonol: Cuculus canorus
Mae’n cael ei hystyried fel arwydd cynnar o’r gwanwyn ac mae cân y gog, neu’r gwcw, yn swnio fel ei henw: ‘cwc-w’. Mae i’w chlywed mewn coetiroedd a glaswelltiroedd. Mae’r gog yn enwog am ddodwy ei hwyau yn nythod adar eraill.

Top facts

Stats

Hyd: 32-34 cm
Lled yr adenydd: 58 cm
Pwysau: 110-130 g
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd

Conservation status

Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Coch o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Wedi’i rhestru fel Agored i Niwed ar Restr Goch Fyd-eang IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.

Pryd i'w gweld

Mawrth - Awst

Ynghylch

Ymwelydd haf â Phrydain yw’r gog, gan gyrraedd o Affrica ddiwedd mis Mawrth ac yn ystod mis Ebrill. Mae’r gog yn enwog am ddodwy ei hwyau yn nythod adar eraill, gan eu twyllo i fagu ei chywion. Mae llwyd y gwrych, corhedydd y waun a thelor y cyrs yn cael eu twyllo’n gyson gan y tric yma. Mae cywion y gog yn tyfu’n llawer mwy na’u rhieni maeth diniwed ac yn aml byddant yn gwthio unrhyw wyau eraill allan o’r nyth. Mae’r gog, beth bynnag yw ei hoedran, yn hoffi bwyta pob math o bryfed, ond lindys blewog yw ei ffefryn!

What to look for

Weithiau mae’r gog yn cael ei chamgymryd am y gwalch glas oherwydd y marciau arni: cefn a phen llwydlas, gydag oddi tani’n streipiau llwyd tywyll a gwyn. Mae ganddi gynffon hir ac adenydd pig, ac mae ei siâp yn debyg i hebog wrth hedfan.

Where to find

Ymwelydd haf eang.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae cywion y gog yn tyfu’n llawer mwy yn aml na’r adar maen nhw wedi cael eu geni yn eu nyth, ac angen llawer mwy o fwyd a sylw na chywion yr adar hynny. Oherwydd hyn, byddant yn gwthio wyau neu gywion yr aderyn maen nhw wedi lladrata ei nyth allan o’r nyth.

Gwyliwch

Russell Savory