Morlo llwyd

Grey Seal

Grey Seal ©Chris Gomersall/2020VISION

Grey Seal

Grey Seal ©Alex Mustard/2020VISION

seal pup

Seal pup by Tom Marshall

Grey seal pup waving its flipper, the Wildlife Trusts

© Eleanor Stone

Morlo llwyd

+ -
Enw gwyddonol: Halichoerus grypus
Ydych chi wedi gweld wyneb chwilfrydig morlo llwyd erioed, yn codi rhwng y tonnau wrth i chi ymweld â thraeth? Gellir gweld morloi llwyd yn gorwedd ar draethau yn aros i’w bwyd fynd i lawr. Weithiau mae morloi bach gwyn fflwfflyd yn cadw cwmni iddyn nhw, yn edrych fel peli o wlân cotwm!

Top facts

Stats

Hyd: hyd at 2.6 m
Pwysau: Gwrywod hyd at 300 kg, benywod hyd at 200 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 30-40 mlynedd

Conservation status

Mae wedi’i warchod ym Mhrydain o dan Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970. Hefyd mae wedi’i warchod o dan Orchymyn Bywyd Gwyllt (Gogledd Iwerddon) 1985 a Deddf Forol (Yr Alban) 2010.

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Y morlo llwyd yw’r mwyaf o’r ddwy rywogaeth o forloi yn y DU ac os edrychwch chi’n fanwl arno, fe welwch chi o ble mae wedi cael ei enw gwyddonol Halichoerus grypus – ei ystyr yw mochyn môr trwyn bachyn! Mae’r mamaliaid yma’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y môr yn bwydo ar bysgod. Maen nhw’n dychwelyd i’r tir i orffwys ac yn aml maen nhw i’w gweld yn gorwedd ar draethau Prydain ar ôl llusgo eu hunain arnyn nhw. Mae morloi llwyd yn geni morloi bach gwyn fflwfflyd yn yr hydref. Mae’r morloi bach hyn yn aros ar y tir nes eu bod wedi colli eu cotiau gwynion a threblu yn eu pwysau.

What to look for

Mae posib gwahaniaethu rhwng y morlo llwyd a’r morlo cyffredin ar sail ei faint mwy a’i ben hirach gyda phroffil ‘trwyn Rhufeinig’. Wrth edrych yn syth ymlaen ar y morlo llwyd, mae tyllau ei drwyn yn gyfochrog, yn hytrach na siâp V fel mewn morloi cyffredin. Yn llwyd ei liw yn bennaf, mae posib defnyddio’r patrwm unigryw o smotiau a blotiau tywyllach i adnabod yr unigolion.

Where to find

I’w weld ledled y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Er bod ei niferoedd wedi gostwng i ddim ond 500 ar ddechrau’r 20fed ganrif, amcangyfrifir bod mwy na 120,000 o forloi llwyd ym Mhrydain erbyn hyn, gan gynrychioli 40% o boblogaeth y byd.

Gwyliwch