Ci glas

Tope shark

Tope ©Peter Verhoog

Ci glas

+ -
Enw gwyddonol: Galeorhinus galeus
Mae'r rhywogaeth yma o siarc main a chain i'w gweld yn aml yn agos at y lan o amgylch ein harfordiroedd a gall dyfu i fod hyd at 6 troedfedd o hyd.

Top facts

Stats

Hyd: Hyd at 195cm
Pwysau: 45kg
Oes Ar Gyfartaledd: Gall fyw am fwy na 50 mlynedd

Conservation status

Mae'r ci glas wedi'i restru fel rhywogaeth Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN ac mae'n Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr.

Ynghylch

Dydi’r ci glas hardd ddim yn siarc ffyslyd iawn am yr hyn mae’n ei fwyta! Mae'n bwydo ar amrywiaeth o rywogaethau o bysgod ond bydd hefyd yn llowcio cramenogion neu seffalopodau os bydd y cyfle’n codi. Mae astudiaethau tagio wedi dangos y gall y ci glas deithio'n bell iawn ac mae rhai unigolion sydd wedi'u tagio yn y DU wedi'u canfod yn ddiweddarach mor bell i ffwrdd â'r Ynysoedd Dedwydd!

What to look for

Siarc hir a main gyda rhan uchaf y corff yn llwyd a’r bol yn wyn. Mae gan y ci glas ddwy asgell ddorsal a chynffon hiciog nodedig.

Where to find

I’w weld o amgylch holl arfordiroedd y DU, ond yn fwy cyffredin yn y De a'r Gorllewin.

Roeddech chi yn gwybod?

Ni fu unrhyw gofnod erioed o gi glas yn ymosod ar bobl heb ei bryfocio, felly does dim angen ofni'r elasmobranciad hardd yma.