Morgath Fannog

Spotted ray

JD Scuba

Morgath Fannog

+ -
Enw gwyddonol: Raja montagui
Mae'r forgath frech yn un o'r rhywogaethau lleiaf o forgathod, sy'n tyfu i ddim ond 80cm.

Top facts

Stats

Hyd: Hyd at 80 cm
Pwysau: Hyd at 4.5 kg

Conservation status

Mae'r forgath frech wedi'i rhestru fel y Pryder Lleiaf ar Restr Goch yr IUCN.

Pryd i'w gweld

Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.

Ynghylch

Y forgath frech siâp diemwnt yw un o'r rhywogaethau lleiaf o forgathod. Mae ganddi ddeiet amrywiol, ac mae’n bwyta cramenogion, pryfed genwair a physgod. Mae'r rhai ifanc yn byw mewn ardaloedd bas ger yr arfordir yn aml, sef meithrinfeydd, ond mae’r oedolion fel arfer i'w gweld ymhellach oddi ar y lan.

Mae’r forgath frech yn gallu atgynhyrchu'n gyflymach na rhai o'r morgathod eraill, gan ei gwneud yn llai agored i orbysgota.

Er ei bod yn cael ei galw'n gyffredin yn forgath frech, rhywogaeth o arwbysgod yw hon (ac mae’n cael ei galw weithiau yn arwbysgodyn brych). Mae perthynas agos rhwng morgathod a garwbysgod ac maen nhw’n edrych yn debyg, ond gallwch weld y gwahaniaeth drwy edrych ar y gynffon. Mae gan y garwbysgod gynffon fer gydag esgyll bach ac nid ydynt yn gallu brathu, ond mae gan y morgathod gynffon hir fel chwip.

What to look for

Mae gan y forgath frech nifer o smotiau tywyll ar hyd ei chefn, ac eithrio ar ymyl ei hadenydd, ac weithiau mae smotyn llygaid ar bob adain.

Gellir ei chamgymryd am y forgath felen, ond mae ffordd hawdd o wahaniaethu rhyngddynt! Nid yw'r patrwm brych ar gefn y forgath frech yn ymestyn yr holl ffordd i ymyl ei hadenydd, gan adael ymyl brown/melyn plaen.

Where to find

I’w gweld ledled y DU ac mae'n un o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn y Sianel.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan y forgath frech ddau dwll yn ei chefn, y tu ôl i'w llygaid; yr enw ar y rhain yw sbiraglau ac maent yn helpu'r forgath frech i anadlu pan fydd wedi'i chladdu o dan y tywod.